google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwrach y Gororau a chwedloniaeth hudol y ffin

Wrth ystyried gwrachod a phobl gyfrwys (cunning folk), mae’r dulliau o felltithio yn debyg iawn i rai o Gymru, yn enwedig y traddodiad o ferched yn melltithio ar eu pengliniau yng Nghymru, fel Joanna Powell, a felltithiodd warden yr eglwys leol yn Swydd Henffordd yn 1617. Weithiau, byddan nhw’n tynnu eu bronnau er mwyn cryfhau’r effaith.

Un o ddewiniaid enwocaf y Gororau oedd Dick Spot; mae ei anturiaethau yn cael eu cofio ledled Swydd Amwythig a Sir Ddinbych, yn enwedig ei allu i garcharu ysbrydion a swyno’r rheiny oedd yn ddigywilydd efo fo.

Yn naturiol, mae’r dylanwad Cymreig ar fy nghartref wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi, a heddiw dwi’n aelod o gwfen o wrachod Cymraeg eu hiaith.

Fel gwrach ac awdur sydd yn parhau i gadw’r cysylltiad rhwng Cymru a’r Gororau, dwi wrth fy modd yn rhannu hanes fy nghartref, dysgu ei hiaith a chynnal sgyrsiau a gweithdai, gyda neges glir mai teitl ar bapur yn unig yw ‘ffin’.

Mae traddodiadau, iaith a chredoau yn estyn ymhellach yn yr ardal yma, ble mae’r galon Gymreig yn ffynnu a rhu’r ddraig dal i’w chlywed yn y siroedd dros y ffin.

Ry’n ni dal yma.


Source link

See also  Detained migrants deprived of medicines, report says

Check Also

Gwireddu breuddwyd tad wrth ail agor becws olaf Caernarfon

Meddai Radoslaw: “Mae ganddon ni gwsmeriaid sy’n dod yma ac yn dweud bod eu taid …

Wrexham: Steve Nickson confirmed as Red Dragons’ new sporting director

Wrexham have appointed Steve Nickson as the Championship club’s first sporting director. Nickson – who …

Ystyried hollti ysgol uwchradd Gymraeg yn ddwy yn sgil pryderon ariannol

Tra bod nifer o opsiynau wedi eu hystyried, mae’r adroddiad yn dweud y byddai rhai …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime