google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pum Diwrnod o Ryddid yn ‘ail-fyw’ stori’r Siartwyr yn Llanidloes

Advertisements

Perfformiwyd y sioe gan Penri Roberts, Derek Williams a Linda Gittins am y tro cyntaf yn Theatr Hafren Y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1988.

Mae’n adrodd hanes gwrthryfel y Siartwyr yn Llanidloes ym 1839, digwyddiad pwysig yn hanes Cymru pan frwydrodd y bobl gyffredin dros eu hawliau democrataidd, gan lwyddo i gymryd rheolaeth o dre Llanidloes am bum diwrnod.

Mae Penri’n esbonio pam fod y gynulleidfa’n uniaethu gyda’r sioe: “‘Da ni fel cwmni wedi gwneud hanes Owain Glyndwr ond mae hwn yn agosach ato ni am fod o’n cychwyn ar frwydr gweithwyr cyffredin i gael hawliau a gwell amodau gwaith.

“Felly ‘da ni gyd yn medru uniaethu efo hynny.

“‘Da ni’n gwybod beth ydy hanes pobl cyffredin mewn ffatrïoedd a phyllau glo. Mae’r hanes yn agos ata ni o ran brwydr ni o ran cael gwell amodau gwaith.

“Chwe pwynt y siarter oedd cael yr hawl i gael pleidlais i bob dyn dros 21 a’r hawl i Aelodau Seneddol gael eu talu. Oherwydd cyn hynny dim ond boneddigion oedd yn Aelodau Seneddol ac yn y dref oedd gyda chi ffatrïoedd gwlân ac ystadau amaethyddol gwledig a phopeth yn cael ei reoli gan y bobl hynny.

“Oedd amodau gwaith gweision fferm yr un fath – yn ddifrifol wael ac yn aml yn y ffatri yn cael eu talu gyda talebau, nid arian, ac yn gorfod gwario’r talebau mewn siop oedd perchennog y ffatri yn berchen.

“Mae’n agos ata ni fel Cymry bod ni’n ran o’r frwydr. Dim ond mewn dau le oedd gwrthryfeloedd fel hyn – yr un mawr yng Nghasnewydd ac yn Llanidloes.

“‘Da ni’n perfformio o flaen gwesty y Trewythen lle wnaeth y siartwyr ymosod.

“Allai ddim fod mewn lle mwy addas – reit wrth ymyl y gwesty ac allwn ni ail-fyw y digwyddiad.”


BBC News

Views: 2

See also  Joanne Penney: CCTV reveals woman's murder on doorstep

Check Also

Malcolm Uphill: Y gŵr o Gaerffili a dorrodd record byd TT Ynys Manaw

Darn addas i ddysgwyr: Hanes y person cyntaf i orffen ras TT Ynys Manaw ar …

Gallai Eglwys Gadeiriol Tyddewi fynd yn fethdalwr o fewn dwy flynedd – adroddiad

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dyddio ‘nôl i’r chweched ganrif. Wedi’i lleoli yn ninas leiaf …

Cynllun i godi fferm wynt ar fynyddoedd Cambria ger Tregaron

Gyda llywodraeth newydd wrth y llyw ym Mae Caerdydd, fe holodd rhaglen Newyddion S4C farn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Free ad network for.