google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gŵr yn gwaedu o’i ben ar ôl i garreg gael ei thaflu o hen Lofa Penallta

Advertisements

Mae rhai pobl sy’n byw ger hen Lofa Penallta ger Caerffili yn dweud eu bod yn poeni y gallai rhywun gael ei ladd ar ôl i dresmaswyr fod yn taflu pethau allan o’r adeilad.

Roedd un gŵr angen triniaeth ysbyty yr wythnos ddiwethaf, ar ôl cael ei daro ar ei ben gan garreg wrth iddo gasglu ei blant o Ysgol Gymraeg Penalltau gerllaw.

Cafodd “nifer sylweddol” o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol eu hadrodd yno’r llynedd, meddai Heddlu Gwent.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Roxanne Western-Weller, ei wraig, ei bod wedi cael “sioc” o glywed bod ei gŵr yn gwaedu o’i ben wedi’r glec.

Mae perchnogion y safle, The Power Hall Limited, yn dweud eu bod yn gweithio’n gyson i sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel a’u bod yn gweithio gyda’r heddlu a’r cyngor lleol.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerffili, maen nhw’n bryderus am y digwyddiad diweddar ac yn condemnio ymddygiad y rhai oedd yn gyfrifol.


BBC News

Views: 3

See also  AS yn galw am adfer yr enw Glyndŵr ar brifysgol Wrecsam

Check Also

Hosts Wales bow out of U19 Euros with Denmark defeat

Wales’ hopes of securing a Fifa Under-20 World Cup play-off place were ended after a …

Wales trio Phillips, Neumann and Fleming to leave Harlequins

Wales internationals Carys Phillips, Lisa Neumann and Abbie Fleming will leave Harlequins at the end …

Ffordd yng nghanol Abertawe ar gau ar ôl i dân achosi mwg du

Mae ffordd yng nghanol Abertawe wedi cau wedi i dân mewn safle diwydiannol achosi cwmwl …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Pansus dprd batam matangkan ranperda psu perumahan, fokus sinkronisasi regulasi.