google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffordd yng nghanol Abertawe ar gau ar ôl i dân achosi mwg du

Mae ffordd yng nghanol Abertawe wedi cau wedi i dân mewn safle diwydiannol achosi cwmwl mawr o fwg du.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymdrin â’r digwyddiad ar Stryd Dyfatty brynhawn Sadwrn.

Mae’r ffordd wedi cau rhwng Stryd Dyfatty, Stryd Orchard a Heol Newhall.

Mae’r heddlu’n annog pobl i “osgoi’r ardal a defnyddio llwybrau eraill lle bo modd.”

Dywedodd yr heddlu fod llawer iawn o fwg yn yr ardal, yn enwedig o gwmpas fflatiau Matthew Street.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd AS Gorllewin Abertawe, Torsten Bell, ei fod yn “pryderu am yr hyn sy’n ymddangos fel tân yng nghanol y ddinas yn ardal City Church”.

Ychwanegodd ei fod “mewn cysylltiad â’r gwasanaethau brys a’r cyngor ac y byddai’n parhau i ddilyn y sefyllfa’n agos.”

Dywedodd hefyd wrth bobl am gadw’n ddiogel ac osgoi’r ardal nes bod mwy o wybodaeth ar gael.


BBC News

Advertisements

See also  Moby Dick: When Hollywood came to Fishguard 70 years ago

Check Also

Kieran Hardy: Ospreys and Wales scrum-half faces World Cup fitness race

Wales scrum-half Kieran Hardy faces a race to be fit for next year’s World Cup …

I died twice, says man saved by off-duty police officer

James Ashley from Merthyr Tydfil suffered a cardiac arrest in a shop in Cwmbran. BBC …

£30m ar gyfer rheilffyrdd yn ‘ganran fach iawn o’r hyn sydd ei angen’

Yn dilyn cyfarfod ag Emma Reynolds yn Llundain ddydd Iau, dywedodd Mark Hooper fod y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime