google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gweinidog i gael cerydd am drydar am ‘blant yn cael eu lladd’

Mae Comisiynydd Safonau’r Senedd, Douglas Bain, yn nodi yn ei adroddiad fod “sylwadau sarhaus o’r math yna am nifer fawr o’r etholwyr, nid yn unig yn sarhaus, ond gallent ddwyn anfri ar y Senedd”.

“Wrth eu gwneud gosododd yr aelod, sy’n uwch wleidydd, esiampl wael iawn, gan ddangos diffyg crebwyll ac arweinyddiaeth.”

Dywedodd y Pwyllgor Safonau ei fod yn “cytuno â barn y comisiynydd am y sylwadau a’u goblygiadau”.

Dywedodd Mr Antoniw wrth y comisiynydd safonau ei fod, wrth ddefnyddio’r gair “hapus” yn bwriadu cyfleu bod y “Ceidwadwyr Cymreig yn gyffredinol (nid oedd wedi’i gyfeirio at unrhyw unigolyn) yn fodlon gwrthwynebu polisi oedd â’r nod o achub bywydau.

“Doeddwn i ddim yn defnyddio ‘hapus’ yn yr ystyr y byddai unrhyw un yn bersonol yn cael pleser o weld plant yn cael eu hanafu neu eu lladd ar ein ffyrdd,” meddai.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos ar ôl y trydariad, gofynnodd Andrew RT Davies i’r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, a oedd yn cytuno ei bod yn “iaith annerbyniol i’w defnyddio wrth geisio cymryd rhan mewn dadl ar bolisi y mae gennym anghytundeb yn ei gylch”.

Atebodd Mr Drakeford: “Tynnodd y cwnsler cyffredinol y neges i lawr ar unwaith ac mae wedi cydnabod ers hynny na fyddai wedi ei fynegi yn y modd hwnnw pe bai wedi bod mewn sefyllfa i roi ystyriaeth bellach iddo”.


Source link

Views: 1

See also  Ryan Hadley: Glamorgan hope to extend pace bowler's stay

Check Also

Taulupe Faletau: Wales and Lions back row signs new Cardiff deal

Taulupe Faletau has signed a new one-year contract with Cardiff to remain at the Arms …

Glamorgan beat League Two rivals Middlesex to reach T20 Final

The performance was a return to form for Glamorgan, who had edged a last-ball win …

Wales hockey: Men’s team raising funds to go to World Cup

Hockey Wales chief executive officer Paul Whapham said the overall costs to prepare for the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Understanding the tech talent shortage.