google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

Gwasaneth newydd i bobl sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad

Er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i annog pobl i siarad, mae ffrind i Kerry Davies-Jones, Adrian Williams yn bwriadu cerdded llwybr arfordir Ynys Môn.

Mae’r llwybr tua 124 o filltiroedd, a bwriad Mr Williams ydi ei gerdded mewn 48 awr.

“‘Dwi isio neud y challenge yma o gerdded rownd Ynys Môn mewn 48 awr, mae pobl yn meddwl mod i’m yn gall, ond ‘dw i isio trio’i neud o. Di o’m yn challenge fel arall,” meddai.

“‘Dw i isio’i neud o i godi ymwybyddiaeth i atal hunanladdiad, fy motto i ydi ‘It’s nice to be nice’ a cheisio helpu pobl sy’n mynd drwy amser drwg, a dyna fwriad hyn.

“‘Dwi isio i bobl ddallt fod pawb weithiau yn mynd drwy amser drwg, ‘dw i wedi colli lot o ffrindiau drwy hyn oedd heb siarad. Falla ‘sa nhw wedi siarad, falla fysa nhw dal yma, dwi’m yn gwybod.”

I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, mae Llywodraeth Cymru yn lansio gwasanaeth cynghori cenedlaethol i geisio helpu pawb sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad, a chanllawiau newydd ar gyfer asiantaethau a sefydliadau.

Mae’r gwasanaeth a’r canllawiau wedi’u dylanwadu gan anghenion a phrofiadau pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru.


Source link

See also  Arthritis in children: How play helped girl laugh again

Check Also

Cwis Canu Gwlad – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Cwis Canu Gwlad – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Dathlu Hen Dŷ Cwrdd Trecynon a’r ‘gwir arwr’ Undodaidd Tomos Glyn Cothi

Yn ystod dathliad ddydd Sadwrn fe fydd darlith am Tomos Glyn Cothi – enw barddol …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime