google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Gwaith atgyweirio brys’ yn cau rhan o’r A5 ger Betws-y-coed

Advertisements

Mae’r A5 rhwng Betws-y-coed a Phentrefoelas ar gau i’r ddau gyfeiriad er mwyn cynnal “gwaith atgyweirio brys”.

Er bod disgwyl i’r ffordd ail-agor am 22:00 nos Fercher, mae’r gwaith yn golygu bod cerbydau nwyddau trwm yn wynebu dargyfeiriad trwy’r Wyddgrug ac ar hyd yr A55.

Yn ôl Traffig Cymru, mae “pob ymdrech” yn cael ei wneud i ailagor y ffordd “yn gynt os yn bosibl”.

Mae Traffig Cymru yn pwysleisio fod y gwaith “yn hanfodol” gan fod angen “atgyweirio rhan o’r briffordd sydd wedi cwympo.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates fod y ffordd ar gau er mwyn cynnal “gwaith brys yn cael ei wneud i atgyweirio cwlfer sydd wedi’i ddifrodi.”

Ychwanegodd fod Asiant Cefnffyrdd Gogledd Cymru yn “gweithio i ddatrys y mater ar frys ac y bydd diweddariadau yn cael eu darparu gan Traffig Cymru.”


BBC News

Views: 1

See also  Spirit of Caerphilly by-election could propel Plaid into government, says leader

Check Also

Cerddorion o Gymru yn Codi'r To yn Sweden

Criw ifanc o Gymru yn teithio i Sweden er mwyn perfformio yn y Scandinavium BBC …

Tour de Suisse Femmes: Zoe Backstedt sprints to stage three victory

British rider Zoe Backstedt (Canyon-SRAM) won stage three of the Tour de Suisse Femmes on …

Wales appoint Paul James as permanent scrum coach

Wales have appointed Paul James as the national team’s permanent scrum coach. The 44-year-old former …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Fishing boat transport. Pontoon boat transport.