google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwahardd athrawes Bro Myrddin am yfed hanner potel win amser cinio

Nid oedd Ms Williams yn bresennol yn y gwrandawiad ond mewn datganiad dywedodd ei bod yn edifar yr hyn ddiwyddodd.

Ymddiheurodd am ei hymddygiad a dywedodd ei fod allan o’i chymeriad.

“Mae gen i gywilydd mawr am yr hyn ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw. Dydw i ddim yn falch o’r hyn a wnes i ond rwy’n cymryd cyfrifoldeb llawn,” meddai.

Ychwanegodd nad oedd ganddi unrhyw fwriad dychwelyd i addysgu.

Fe wnaeth pwyllgor CGA ganfod bod gweithredoedd Ms Williams gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol gan ei bod yn mynychu’r ysgol a dechrau dysgu dosbarth tra dan ddylanwad alcohol neu wedi yfed alcohol.

Roedd Ms Williams wedi dysgu yn yr ysgol ers mis Medi 1999 a bu’n bennaeth cemeg rhwng 2013 a 2020, ond fe ymddiswyddodd o’r rôl honno wedi’r pandemig.

Cafodd ei gwahardd rhag dysgu am gyfnod amhenodol, gydag isafswm o ddwy flynedd.


BBC News

Advertisements

See also  Galw am Oriel Gelf Genedlaethol i roi statws i gelf gyfoes

Check Also

Hawk fighter jets to resume flying at RAF Valley after crash

“The decision has been taken at the highest level, after extensive scrutiny, that the necessary …

Bangor mum fears baby will be scarred for life after hot gravy spill at pub

She then wrapped Neli’s hand and leg in a muslin cloth and took her to …

Mam yn poeni y bydd gan ei babi greithiau am oes wedi damwain ‘erchyll’

Ers y digwyddiad mae Ms Griffiths wedi bod yn mynd â Neli yn ôl i’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime