google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwaddol yr Eisteddfod: Cais newydd i gael strategaeth ymadael

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford ym mhwyllgor diwylliant y Senedd yr wythnos ddiwethaf bod cynllunio gwaddol yr Eisteddfod yn “debyg iawn i gynllunio rhyddhau [claf] o’r ysbyty”.

“Mae angen i’r cynllun rhyddhau ddechrau ar y diwrnod y caiff y claf ei dderbyn, nid pan maen nhw’n barod i adael.”

Ychwanegodd: “Mae’r Eisteddfod yn sbarduno pob math o weithgarwch.

“Weithiau mwy o weithgarwch ymhlith sefydliadau presennol, weithiau mae pethau newydd yn dod i fodolaeth – corau sydd wedi ymgynnull yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod ac yn y blaen.

“Felly yr hyn yr ydym yn gofyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ei wneud yw meddwl am sut y bydd hynny’n cael effaith y tu hwnt i wythnos yr Eisteddfod ei hun, o’r diwrnod y byddant yn nodi’r lleoliad nesaf hwnnw.

“Dydw i ddim yn meddwl y dylem ni deimlo’n ddigalon amdano, oherwydd dwi’n meddwl bod tystiolaeth o Bontypridd o sut mae hynny’n digwydd; gall ddigwydd i raddau mwy, dwi’n siŵr.”


BBC News

Advertisements

See also  Gething says he'll remain dignified while new FM is elected

Check Also

Y rhedwraig o Ben Llŷn sy’n casau rhedeg

Dechreuodd Kelly redeg ar ôl colli ei mam i ganser y pancreas yn 2015, meddai: …

'Diagnosis i'n babi fel dringo mynydd, ac mae taith hyd yn oed yn fwy i ddod'

Dim ond tri pherson sy’n dioddef o’r un cyflwr â Rupert yng Nghymru a 1,500 …

‘Nes i bron golli fy nghoes – nawr fi’n rhedeg hanner marathon’

Ymhlith y 30,000 o bobl fydd yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, mae gan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime