google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Greville Wynne: Yr ysbïwr o Ystrad Mynach

88c4f740 30bc 11f0 9228 d36f84fd1370.jpg

Roedd gwerth cyfanswm o 10,000 tudalen o adroddiadau cudd a thua 140 awr o gyfweliadau wedi’i rhannu gydag Wynne gan Penkovsky a rheiny i gyd wedi’u cludo nôl i’r Gorllewin.

Ond yn mis Tachwedd 1962 cafodd y ddau eu harestio gan y KGB. Ar y pryd roedd Wynne yn Budapest, a oedd dan ddylanwad Sofietaidd, ac wrth iddo gerdded ar hyd stryd, fe ddaeth ‘na gar o unlle gyda phedwar dyn yn neidio allan a’i herwgipio.

Fe gafodd ei hedfan i Moscow a’i garcharu gyda Penkovsky a oedd wedi cael ei ddal wythnos ynghynt.

Roedd yn wynebu cyhuddiadau o ysbïo ac o ganlyniad i fradychaeth Penkovsky fe dderbyniodd hwnnw’r gosb eithaf gan y llys a’i saethu ychydig ddyddiau wedi’r achos.

Er i Wynne smalio nad oedd yn ymwybodol beth oedd cynnwys y dogfennau yr oedd yn ei gario i’r gorllewin, fe gafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar.

Fe gafodd ei ddal yng ngharchar Lubyanka yn Moscow ac erbyn 1964 roedd pryderon yn Llundain am ei iechyd tra dan glo.

Yn dilyn misoedd o drafod daeth Llywodraeth Prydain a Rwsia i gytundeb i ryddhau Wynne ar yr amod fod ysbïwr o Rwsia oedd yn y carchar ym Mhrydain, Konon Molody a oedd yn cael ei adnabod hefyd fel Gordon Lonsdale, yn cael ei ryddhau o’i ddedfryd 25 mlynedd.


BBC News

Advertisements

See also  Alan Sheehan: Swansea City caretaker boss turned down chances to leave

Check Also

Aberfan: Atgofion y gweinidog a’r disgybl ysgol fu yno

Roedd Bodfan Jenkins yn yr ysgol pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd. “Oedd rywbeth …

Gwleidydd Reform yn defnyddio sbectol clyfar i wneud areithiau yn y Senedd

Mae nifer o bryderon ynghylch defnyddio’r dechnoleg – yn enwedig sbectolau sydd â chamera ac …

Mari Grug: Cyngor ar sut i drafod canser gyda phlant

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Mari: “[Wnaeth e] …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime