google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gorllewin Abertawe: Costau byw, cyffuriau ac iechyd ar y meddwl

Mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl yr ardal, yn ôl Maria Williams, 38.

“Ma’ dal llawer mwy y’n ni’n mo’yn gweld. Ni lan fan hyn yn wahanol iawn i lawr yn y ddinas,” dywedodd.

Yn dilyn newid yn ffiniau’r etholaethau, mae Treforys bellach yn rhan o etholaeth Gorllewin Abertawe.

Gydag un o ysbytai mwyaf Cymru, ac adran frys, ar garreg y drws, dydy hi ddim yn syndod mai iechyd sy’n poeni pobl yno.

Er yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, dywedodd Rhian Williams, ysgrifennydd Capel Tabernacl y dref, fod rhestrau aros yn bwnc trafod mawr ymysg aelodau cyn yr etholiad.

“Iechyd yw’r peth mwya’ pwysig i bobl yn yr ardal ‘ma ar hyn o bryd,” dywedodd.

“Faint o amser mae’n rhaid iddyn nhw aros i weld rhywun.

“Maen nhw’n aros am glun newydd, pen-glin, ma’ nhw wedi colli annibyniaeth.”


Source link

See also  Black bag fly-tipping rise 'horrible' and 'lazy' say frustrated residents

Check Also

Cymru Premier: Third win on spin for Connah’s Quay

Connah’s Quay Nomads enjoyed their third successive win in Cymru Premier by beating new boys …

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Cofrestru yn yr Eisteddfod ‘a rŵan ella bo’ fi’n rhoi cyfle arall i rywun fyw’

I Elin, mae’r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau’r daith yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime