google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gorchymyn dyn rhag stelcio AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts

Dywedodd cyfreithiwr ar ran Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Preston, fod merch yr AS wedi ffonio 999 ar 8 Tachwedd y llynedd wedi i Lowe gyhoeddi neges fygythiol am ei mam ar wefan X, gan grybwyll ble mae hi’n byw.

Yn ôl Mr Preston, fe amlygodd y diffynnydd “gasineb sylweddol” tuag at Ms Saville Roberts wrth gael ei holi.

“Fe gadarnhaodd ei fod yn hiliol,” dywedodd, gan ychwanegu fod Lowe wedi cyfeirio at bobl fel “bradwyr”.

Clywodd y llys bod sylwadau Lowe wedi peri “pryder mawr” i’r AS a’i theulu.

Doedd y diffynnydd ddim yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.

Yn ôl Mr Preston, mae Lowe wedi dweud nad oedd yn poeni ynghylch gosod y gorchymyn, ac y byddai’n cydymffurfio â phenderfyniad y llys.

Rhybuddiodd y barnwr, yn absenoldeb y diffynnydd, y gallai wynebu hyd at bum mlynedd o garchar pe bai’r torri’r gorchymyn, a bydd yn rhaid iddo gofrestru gyda’r heddlu.


BBC News

Advertisements

See also  Women's Cricket World Cup: Alana King takes seven wickets against South Africa

Check Also

Burnham’s devolution plan won’t work in Wales, ex-minister says

Former Welsh local government minister Alun Davies told Radio Wales Breakfast on Monday he was …

John Lewis – ‘un o gewri byd cyhoeddi Cymru’, wedi marw

Yn ystod cyfweliad ar Beti a’i Phobol yn 2012, bu John Lewis yn sôn am …

Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Yn ôl Mair Morgan, sydd ymhlith sawl cenhedlaeth o gyn-ddisgyblion Ysgol Bancffosfelen, mae yna “siom …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime