google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

GIG Cymru ‘bron wedi dymchwel’ yn ystod y pandemig

Advertisements

Mae’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau penodol am yr ymateb yng Nghymru, sy’n cynnwys meddyg ymgynghorol blaenllaw yn sôn bod dim mygydau ar gael yn ei adran ar ddechrau’r pandemig, a bod ef a’i gydweithwyr wedi cael eu taro’n wael o ganlyniad.

Cafodd 13,000 o’r 91,000 o lythyrau yn rhoi cyfarwyddyd i bobl fregus yng Nghymru i gysgodi, eu gyrru i’r cyfeiriadau anghywir.

Roedd Prif Feddyg Cymru ar y pryd, Syr Frank Atherton, yn cydnabod nad oedd digon o gapasiti mewn ysbytai o flaen llaw i ymateb, gan nodi bod ceisio rhedeg system mor “effeithlon” yn golygu nad oedd y system wedi paratoi’n ddigonol.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud fod arafwch yng Nghymru o ran llacio cyfyngiadau ar ymweld â mamau beichiog.

Dim ond 60 o gleifion gafodd eu trin mewn ysbytai maes, er bod £136m wedi cael ei wario arnyn nhw, ond nid yw’r ymchwiliad yn beirniadu’r egwyddor o’u sefydlu.

Dywed hefyd fod heriau mawr wedi wynebu gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru oherwydd salwch ac absenoldeb staff, a bod gohirio rhai rhaglenni sgrinio canser wedi achosi niwed i rai.

O ran iechyd a lles staff, clywodd yr ymchwiliad am staff yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd wedi gorfod dychwelyd i’w ceir i fwyta neu am baned, gan nad oedd llefydd eraill ar gael iddyn nhw gael seibiant.


BBC News

Views: 2

See also  Regan Grace: Code switcher suffers fresh injury blow

Check Also

Torfeydd yn heidio i Tafwyl sy’n dathlu 20 mlynedd yn y brifddinas

Mae ymwelwyr yn gallu mwynhau perfformiadau ar draws sawl llwyfan – y Prif Lwyfan, Llwyfan …

O Grymych i'r Bahamas: 'Cael fy nhalu i deithio'r byd'

Mae Shannon Mathias o sir Benfro wedi bod yn gweithio ar gychod hwylio gwerth miliynau …

Steve Cooper on Wales’ radar amid Craig Bellamy’s Burnley links

Wales are preparing for head coach Craig Bellamy’s possible move to Burnley with a shortlist …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Aaa mush love. Wordpress › error.