google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Taro a ffoi Sir y Fflint: Tri yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Advertisements

Mae dyn ifanc a adawodd safle gwrthdrawiad yn Sir y Fflint wedi iddo anafu bachgen pump oed yn ddifrifol wedi ei gael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe gafodd Arlo Buckley ei daro gan feic modur ar Central Drive yn ardal Shotton, a’i lusgo o dan y beic ar 11 Medi 2024.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Kaylem Longhurst, 18, o Nantwich yn Sir Caer, oedd yn gyrru’r beic modur, wedi ffoi o’r safle ar ôl iddo daro’r bachgen.

Roedd eisoes wedi pledio’n euog mewn gwrandawiad blaenorol i gyhuddiad o yrru’n beryglus.

Fe’i cafwyd o, ei fam Terry Follows, 42, a’i phartner ar y pryd, Shane Hunt, 39 yn euog gan reithgor o wyrdroi cwrs cyfiawnder, wedi i’r ddau arall gynllwynio i symud Longhurst o’r ardal er mwyn iddo osgoi cael ei arestio.

Cafwyd brawd Kaylem Longhurst, Dane yn ddieuog o’r un cyhuddiad.

Roedd ei chwaer Cara Haran eisoes wedi pledio’n euog.


BBC News

Views: 1

See also  Apiau AI yn rhoi cyngor camarweiniol ar etholiad y Senedd

Check Also

Torfeydd yn heidio i Tafwyl sy’n dathlu 20 mlynedd yn y brifddinas

Mae ymwelwyr yn gallu mwynhau perfformiadau ar draws sawl llwyfan – y Prif Lwyfan, Llwyfan …

O Grymych i'r Bahamas: 'Cael fy nhalu i deithio'r byd'

Mae Shannon Mathias o sir Benfro wedi bod yn gweithio ar gychod hwylio gwerth miliynau …

Steve Cooper on Wales’ radar amid Craig Bellamy’s Burnley links

Wales are preparing for head coach Craig Bellamy’s possible move to Burnley with a shortlist …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
aaa mush love. Learn more about troubleshooting wordpress.