google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gething i fethu coffa D-Day oherwydd pleidlais diffyg hyder

Ni fydd y Prif Weinidog yn gallu cynrychioli Cymru mewn digwyddiad i goffáu D-Day ddydd Mercher oherwydd pleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn y Senedd yr un diwrnod, medd Llywodraeth Cymru.

Mae digwyddiad yn nodi 80 mlynedd ers yr ymosodiad chwedlonol ar draethau Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cael ei gynnal yn Portsmouth ar yr un diwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “yn anffodus ni fydd yn bosib iddo gynrychioli Cymru yn y digwyddiad cenedlaethol”.

Ychwanegodd eu bod yn ceisio gweld a fydd yn bosib i Mr Gething gymryd rhan mewn digwyddiad coffa cenedlaethol arall ddydd Iau.

Mae’r digwyddiad yn nodi’r noson cyn ymgyrch Operation Overlord, a welodd filoedd o filwyr yn croesi Môr Udd i ryddhau gogledd orllewin Ewrop, ac fe fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC One.


Source link

Advertisements

See also  Stryd fawr Machynlleth yn gosod goleuadau Nadolig wedi'r cwbl

Check Also

‘Aeth chwe chenhedlaeth o fy nheulu i’r ysgol yn Llangyndeyrn, ond dim mwy’

Heddiw mae Huw’n 90 oed ac yn parhau i fyw yn Llangyndeyrn, a’i fab Alun …

First Welsh Bank of England chief cashier to start job

“I’m not going to rule anything in or out other than the picture of Tom …

Senedd member says smart glasses help with speeches in the Senedd

Asked if he risked misleading people by giving the impression he was speaking without notes, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime