google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gai Toms: “Dwi ddim wedi sgwennu fy albwm gorau eto”

Roedd dylanwadau Gai pan yn hogyn ifanc yn gymysgedd o fandiau Cymraeg a Saesneg.

“Pan oddan ni’n yr ysgol uwchradd oddan ni’n gwrando ar Ffa Coffi Pawb, Hanner Pei, Aros Mae… oddo’n mind-expanding go iawn, ac diolch i recordiau Ankst mwy na’m byd, achos nhw odd yn rhoi’r albwms anhygoel ‘ma allan i’r bandiau ifanc cyffrous ‘ma. Ond oedd hynny law yn llaw hefyd efo bandiau fel Stone Roses a Happy Mondays – oddan ni wedi tyfu allan o roc a heavy metal, a mynd mewn i bethau mwy arbrofol.

“Fel unigolion odd gen ti Rhys, Ceri, Oz ac Alwyn yn Anweledig, ac oddan ni gyd fewn i’r sîn Gymraeg. Oddan ni’n gwneud gigs mewn ysgolion a gweld bandiau fel Tŷ Gwydr a Beganifs, a pan oddan ni ‘chydig yn hŷn mynd i weld bandiau tu hwnt i Stiniog.

“Odd’na fand ‘chydig bach mwy indie na’r Mistêcs, o’r enw’r Cylchoedd Hyd, ac oedd fy nghefnder i ar ochr fy nhad, Gary yn chwarae’r bas i nhw. Felly, oedd hwnnw’n rhyw ddylanwad arall arna i – ‘os allith Gary chwarae’r gitâr, falla alla i chwarae gitâr’…

“Roedd fy chwaer, Elaine, yn ddylanwad arna i hefyd. Oedd gen hi gitâr clasurol yn ei lloft, a pan odd hi’n mynd allan o’n i’n mynd i’w llofft hi i chwarae gitâr a mynd drwy ei vinyls hi – pethau fel U2. Ond yn ganol records fel ‘na oedd gen ti fandiau fel Maffia Mr Huws.”


Source link

Views: 0

See also  Church in Wales urged to share full reports as Archbishop retires

Check Also

Labour politician wants training courses for rabbit owners in Wales

The Senedd election in May saw Hedges’ Labour lose power in Wales for the first …

Labour victory in additional learning vote in Senedd as Plaid lose again

The Plaid Cymru Welsh government has lost another vote in the Senedd after a majority …

Gyrrwr beic trydan yn osgoi carchar ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

Mae dyn a blediodd yn euog i yrru’n beryglus ar ôl taro cerddwr gyda beic …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime