google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffibromyalgia: Meddygon yn dweud ‘mae’r cyfan yn dy ben’ er poen cyson

Advertisements

Ar ôl cael diagnosis o’r syndrom prin Ehlers-Danlos, mae Angharad Rees, sy’n 45 o Landegla, wedi cael cadarnhad fod ganddi hefyd ffibromyalgia.

Ond mae hi’n dweud fod cael diagnosis wedi bod yn anodd iawn, gyda rhai meddygon yn ei chyhuddo o “ddweud clwyddau” am ei symptomau.

“Mae o’n ‘neud i ti deimlo bo’ ti werth dim byd. Bo’ ‘na neb yn gwrando arnat ti,” meddai.

“Mae’r medical gaslighting dyddia’ yma wedi mynd yn ofnadwy.”

Mae hi’n cofio eistedd mewn ystafell mewn ysbyty yn “crio a chrio” ar ôl i arbenigwr ddweud wrthi nad oedd hi’n dweud y gwir am ei symptomau.

“Be’ ma’n nhw’n weld ydy bod ti’n upsetio ac yn crio, ac yna yn deud wrtha ti yn bendant mai cyflwr iechyd meddwl ydy o.

“Mae’r rhwystredigaeth yn ofnadwy achos does ‘na neb yn gwrando.”

Mae hi’n falch fod y grŵp ffibromyalgia Rhuthun wedi ei sefydlu, ac yn cael cysur o gyfarfod eraill sydd yn yr un sefyllfa.

“Da ni’n gymorth i’n gilydd ac mae hynny yn wych, ond da ni’n disgwyl mwy gan y meddygon a gan y llywodraeth i ‘neud mwy droson ni.”


BBC News

Views: 0

See also  Protesters surround Senedd with 'red-line' at Palestinian demo

Check Also

Adolygiad i ystyried lleihau baich ‘gwaith papur diangen’ ar ffermwyr

Mae yna gais amlwg i ennill ymddiriedaeth ffermwyr yn nyddiau cynnar y llywodraeth newydd – …

Aberthaw power station chimney demolished in controlled explosion

This is the moment a 502ft (152m) chimney stack at the former Aberthaw power station …

First few days of new chicks hatched at osprey centre captured on camera

Six of the new chicks are from two pairs who can be seen at a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... power only rhode island.