google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Eluned Morgan: £22m yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer na fydd Cymru yn cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth y DU o gynllun rheilffordd cyflym HS2 Lloegr, ond ei fod wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch ariannu rheilffyrdd.

Wrth siarad ar raglen Wales Today ddydd Gwener, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan y byddai’n parhau i “ymladd dros Gymru”.

“Rydym yn cynnal trafodaethau difrifol gyda nhw am fwy o wario ar seilwaith ar gyfer trenau. Dyna’r hyn sydd yn fy niddori i, y rheilffyrdd a’r sgyrsiau, a gallaf gadarnhau eu bod yn parhau”.

Fe wnaeth Syr Keir Starmer hefyd amddiffyn newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr gan ddweud na fydd “y mwyafrif helaeth” o ffermwyr Cymru yn cael eu heffeithio gan y newid.

Mae cyhoeddiad y Canghellor, Rachel Reeves, yn y Gyllideb yn ddiweddar yn golygu na fydd £1m cyntaf unrhyw ystâd yn cael ei drethu, ond fe fydd yn rhaid talu treth o 20% dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw swm ar ben hynny.

Dywedodd, mewn “achos arferol” bod trothwy o £3m cyn y byddai unrhyw dreth etifeddiaeth amaethyddol yn cael ei thalu.

“Dwi ddim yn meddwl y bydd y rhan fwyaf o ffermwyr yn cael eu heffeithio o gwbl”.

“Mae ‘na drothwy o £1m ar gyfer y fferm, ond mae ‘na hefyd drothwyon ychwanegol rhwng parau,” meddai.


Source link

Views: 1

See also  Wales unemployment rise shows Labour plan failing, say Tories

Check Also

Cardiff City: Boss Barry-Murphy aims to prove doubters wrong

Asked what would constitute a successful season for his side, Barry-Murphy said: “We don’t know. …

Wrexham transfer news: Red Dragons have ‘big decisions’ to make as Falchener targeted

Having already brought in full-back Danny Imray and central midfielder Ben Whiteman this summer, Wrexham …

Wrexham XL bully owner Chanel Fong says dog not type to savage anyone

A woman who denies owning an XL bully that bit her partner’s father, causing him …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa kit. 2 x elfbar elfa prefilled pod.