google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth yw gobeithion clybiau Cymru cyn i’r tymor newydd ddechrau?

Advertisements

Ar ôl un tymor yn unig yn Adran Un, mae Caerdydd yn ôl yn y Bencampwriaeth.

Fe wnaeth Brian Barry-Murphy yn wych yn ei dymor cyntaf wrth y llyw – sicrhau dyrchafiad, chwarae pêl-droed ymosodol a rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc o’r academi.

Mae’n bosibl dadlau mai’r peth pwysicaf mae Caerdydd wedi ei wneud dros yr haf ydy perswadio Barry-Murphy i arwyddo cytundeb newydd – yn enwedig ar ôl iddo gael ei gysylltu gyda chlybiau fel Celtic.

Ar y cae, byddai gorffen yng nghanol y tabl, ac aros i ffwrdd o safleoedd y cwymp, yn cael ei gyfri’ fel llwyddiant y tymor yma.

I hynny ddigwydd maen nhw’n sicr angen cryfhau’r garfan.

Mae’r golwr Nathan Trott wedi arwyddo’n barhaol ar ôl cyfnod llwyddiannus ar fenthyg, tra bod y chwaraewr canol cae Jack Moylan wedi ymuno o Lincoln.

Ond yn ddelfrydol mae angen mwy o ddyfnder yn y llinell flaen, ar yr esgyll ac yng nghanol cae.

Os fydd Yousef Salech yn llwyddo i sgorio’n rheolaidd y tymor yma, yna efallai y gwelwn ni Gaerdydd yn brwydro am le yn yr wyth uchaf.

Ond fel mae pethau’n sefyll, dwi’n gweld hynny’n annhebygol.


BBC News

Views: 3

See also  Cwis: Cartref pwy?

Check Also

S4C defends new drama about Neil Foden amid ‘too soon’ criticism

Davies added: “In my 55 years of involvement in policing security worldwide, I am fed …

Dau wedi marw mewn gwrthdrawiad awyren fach yng Ngwynedd

Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad awyren fach yng Ngwynedd. Dywedodd Heddlu’r Gogledd …

Swan dies after being shot at Hendre Lakes in Cardiff

A swan has died at a beauty spot after being shot at with ball bearings, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime