google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Elinor Bennett: ‘Dwi’n colli perfformio’n fawr iawn’

C8fc2910 3bba 11f0 91a0 abc9c23352d4.jpg

Advertisements

Ac mi fydd Elinor yn chwarae cerddoriaeth gan Mozart a Handel, meddai: “Beth sydd wedi helpu fi yw bod gynnai delyn wreiddiol. Mae gen i gopïau o’r gerddoriaeth gwreiddiol – mae hynny wedi dangos fi sut i neud o. Dyna’r peth – gadael i’r gerddoriaeth i arwain.

“Prynais y ddwy delyn er cof am fy rhieni, sy’n eithaf emosiynol. Roedd fy nhad, Emrys Bennett Owen, yn gerddorol iawn a Mam, Hannah Bennett Owen yn gerddorol hefyd. ‘Doedd ddim cyfle i gael gwersi telyn yn eu cyfnod nhw ond ddaru fy nhad brynu’r delyn gyntaf i mi a’m chwaer yn 1950! Oedd o’n arwain corau ac yn beirniadu mewn eisteddfodau.

“Mae’r deires yn cael ei galw’n ‘Emrys’ achos mai dynion oedd yn canu’r delyn deires yng Nghymru yn draddodiadol – telyn y werin oedd hi.

“Ond mae’r delyn bedal gynnar yn addurniedig iawn ac yn cael ei galw’n ‘Hannah’ er cof am Mam gan mai merched (cyfoethog fel arfer) oedd yn ei chanu tua dau gan mlynedd yn ôl. Mae hanes y ddwy delyn yn doreithiog ac yn bwysig iawn i’n hanes cerddorol ni fel Cymry.”

Ac mae lledaenu’r neges am rôl y delyn yn hanes Cymru yn hynod bwysig i Elinor: “Mae’n ofnadwy o bwysig – dwi wedi bod yn chwarae pethau clasurol o bob cyfnod ar hyd fy ngyrfa ond bob amser yn cynnwys cerddoriaeth Gymraeg a phethau gwerin.

“Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y Gymraeg mewn gwledydd tramor. Wrth sefydlu y gwyliau telyn rhyngwladol yng Nghaernarfon roedd pobl yn dod a chlywed yr iaith, y bobl oedd mwyaf anwybodus oedd bobl o ardal Llundain. Oedd gynnon nhw ddim syniad bod ni’n gallu cynnal pethau drwy gyfrwng yr iaith.

“Mae ‘na gymaint o anwybodaeth. ‘Da nin cadw fo’n y gyfrinach orau yn Ewrop, fel wnaeth rhywun o America ddweud wrtha’i un tro.”

Ac meddai Elinor wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa: “Dwi wedi perfformio drwy mywyd a dwi’n licio rhannu cerddoriaeth, dwi wrth fy modd yn ymarfer ond does dim lawer o bwynt gwario oriau lawer a dim ond chi sy’n clywed o.

“Dwi isho rhannu’r miwsig a bod efo pobl eraill. Y miwsig sy’n bwysig.”


BBC News

Views: 1

See also  Ricardo Santos: Swansea City sign ex-Bolton Wanderers defender

Check Also

Gwobr cyfraniad arbennig i Dr Simon Brooks am ymchwil yn Gymraeg

Gwobrau addysgwyr: Gwobr Annog Disgyblion – Lleucu Wyn Pughe, Ysgol Bro Hyddgen. Gwobr Dathlu’r Darlithydd …

Wales' papers: Missed chance to avoid rail tragedy and £145m plan to save Welsh NHS

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

NHS Wales to get £145m boost for waiting lists and hubs

“What we’re doing is putting money into that early intervention so that we don’t reach …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
power only ohio. Just a moment.... car transport new mexico.