google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes ‘wedi colli pob dim’ yn dilyn tân mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog

Advertisements

Mae Ms Clinton yn byw mewn llety dros dro a dywedodd nad oes gobaith ganddi o ddychwelyd i’r adeilad yr oedd hi’n arfer galw’n gartref.

Ychydig wythnosau ar ôl y tân, cafodd hi wybod fod y perchnogion, Admiral Taverns, wedi gwerthu’r adeilad.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, sydd â Blaenau Ffestiniog yn ei hetholaeth fod Admiral Taverns “wedi dangos diffyg dyletswydd gofal brawychus tuag at Angi Clinton a’i staff”.

“Mae eu gweithredoedd wedi tanseilio ymddiriedaeth ac wedi anwybyddu effaith ddynol eu penderfyniadau busnes,” meddai Ms Saville Roberts.

Dywedodd fod y gwesty yn “rhan hanfodol” o sector lletygarwch y dref, gan ddweud fod y gymuned yn haeddu gwybod pwy oedd yn berchen ar y gwesty.

Anogodd Ms Saville Roberts i’r perchnogion newydd ystyried adfer yr adeilad fel lleoliad arlwyo a lletygarwch.


BBC News

Views: 0

See also  London medieval tower preserved during 36-storey skyscraper build

Check Also

Llafur Cymru’n wynebu ‘argyfwng dirfodol’, yn ôl cyn-Weinidog

Ychwanegodd bod Plaid Cymru’n wynebu sawl penderfyniad anodd wrth lywodraethu am y tro cyntaf ym …

Welsh Labour faces existential crisis, says former minister

Wales’ controversial 20mph limit in built-up areas came at a cost to Welsh Labour, says …

Coffee pot building defibrillator rejected as 'visually incongruous'

The council says adding equipment box to the building would “disrupt important architectural detailing”. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime