google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes fu farw fis ar ôl gwrthdrawiad wedi bod yn gwella’n dda – cwest

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun ddydd Iau fod y cyn athro mewn ysgol i blant ag anghenion dysgu wedi dechrau gweithio mewn cartref gofal yn Llangollen yn ystod y pandemig.

Ar ei ffordd i’w gwaith yr oedd Ms Grimshaw pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Wrth roi tystiolaeth i’r cwest, dywedodd gyrrwr y tractor, Thomas Morris, 27, ei fod wedi gweld car yn bell i lawr y lôn, ond wrth iddo adael y gyffordd fe sylweddolodd ei fod yn “agosáu yn gyflym” a bod “ei olwynion blaen ar fy ochr i o’r ffordd”.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw gerbydau wedi parcio ar ochr y ffordd i orfodi y gyrrwr i ochr arall y lôn.

Yn ôl Mr Morris, fe wnaeth y car daro olwyn gefn y tractor cyn troelli a tharo rheiliau. Eglurodd hefyd ei fod wedi siarad gyda Ms Grimshaw cyn galw 999.

Dywedodd uwch grwner gogledd, dwyrain a chanolbarth Cymru, John Gittins, nad oedd digon o dystiolaeth i awgrymu fod y gwrthdrawiad yn weithred fwriadol.

Nododd fod Ms Grimshaw wedi marw o ganlyniad i thrombosis yr ysgyfaint a gafodd ei achosi gan ddiffyg symudedd wedi’r gwrthdrawiad.

Daeth i gasgliad fod Ms Grimshaw wedi marw yn sgil gwrthdrawiad ffordd ac “mai’r anafiadau wnaeth hi eu dioddef y diwrnod hwnnw a’r llawdriniaethau dilynol arweiniodd at y digwyddiadau trist ar 27 Chwefror”.


BBC News

Advertisements

See also  O'r Archif: Cipolwg ar ysgolion Cymru yn y gorffennol

Check Also

WRC: Elfyn Evans is world champion after late Oliver Solberg crash

1. Elfyn Evans (Great Britain), Toyota, 243 points 2. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, 238 3. …

Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf

Roedd disgwyl i’r rali olaf ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond cafodd ei …

Cardiff Half Marathon: Joyciline Jepkosgei sets new record

Kenya’s Joyciline Jepkosgei set a new women’s course record when winning the 2026 Cardiff Half …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime