google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn pledio’n euog i lofruddio dynes gafodd ei saethu

Advertisements

Mae un o chwe diffynnydd yn achos dynes a gafodd ei saethu’n farw mewn fflat yn Rhondda Cynon Taf, wedi newid ei ble i euog.

Bu farw Joanne Penney, 40, ar 9 Mawrth 2025 yn dilyn digwyddiad mewn fflatiau yn Llys Illtyd, Tonysguboriau.

Mae Marcus Huntley yn un o bedwar dyn a dwy fenyw sydd yn y llys wedi’u cyhuddo o’i llofruddiaeth.

Bu Huntley, o Gaerdydd, yn treulio’r bore yn trafod gyda’i gyfreithwyr, cyn iddo ddychwelyd i’r llys ychydig cyn 13:00, ble y gwnaeth ei fargyfreithiwr Thomas Crowther KC ofyn i’r cyhuddiad gael ei gyflwyno iddo eto.

Cafodd y cyhuddiad o lofruddiaeth ei gyflwyno i Huntley, a phan ofynnwyd iddo sut yr oedd yn pledio i’r cyhuddiad, atebodd ei fod yn euog.

Mae achos llys y pump o’r diffynyddion eraill: Kristina Ginova, Joshua Gordon, Tony Porter, Melissa Quailey-Dashper a Jordan Mills-Smith, yn parhau ac maen nhw’n gwadu llofruddio.


BBC News

Views: 0

See also  Public Services Ombudsman cleared of bias after tweets row

Check Also

Ci o Ben Llŷn wedi’i ganfod yn Lloegr ar ôl ‘tair wythnos o boeni’

Mae teulu o Ben Llŷn yn ddiolchgar i’r cyfryngau cymdeithasol am eu help yn dod …

Scotland U20 28-21 Wales U20: Scots claim fifth at Junior World Championship

Scotland U20: Rory McHaffie (Edinburgh); Daniel Kelly (Edinburgh), Henry Kesterton (Edinburgh), Alex Bryden (Glasgow), Nairn …

Cardiff Covid fraudster jailed over bogus £200,000 loans

Wagh applied for a second £50,000 Bounce Back loan for Talensetu, a recruitment company, in …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Salope von asheen.