google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn pledio’n euog i gadw arfau mewn tŷ yn Abergwynfi

Advertisements

Mae dyn 51 oed o Gastell-nedd Port Talbot wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o fod ag arfau anghyfreithlon yn ei feddiant, ar ôl i “nifer sylweddol” o arfau gael eu darganfod mewn tŷ yn Abergwynfi ym mis Chwefror.

Cafodd pobl eu symud o’u cartrefi ar Stryd Commercial am gyfnod ar 14 Chwefror ar ôl i’r heddlu gael eu galw i dŷ yno.

Cafodd Maximin Carter ei arestio’n wreiddiol ar amheuaeth o geisio gwneud ffrwydryn gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu eiddo.

Yn Llys y Goron Abertawe, pleidiodd yn euog i gyhuddiad o fod â gwn aer yn ei feddiant, sydd wedi ei wahardd o dan Ddeddf Arfau Tanio 1968.

Plediodd yn euog hefyd i chwe chyhuddiad arall o fod ag arfau yn ei feddiant, yn cynnwys cleddyf samurai, haearn dwrn (knuckle duster) a phedwar pastwn telesgopig.

Dywedodd yr heddlu ar y pryd fod pobl leol wedi eu symud o’u cartrefi am resymau diogelwch, gan ddiolch iddyn nhw am eu dealltwriaeth a’u hamynedd.

Cafodd Carter ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 7 Ebrill.


BBC News

Views: 4

See also  Keir Starmer yn ymddiheuro i AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts

Check Also

'Feelings running high' as men in court charged with murder after crash

In a short hearing, defendants Terell Case and Joshua Williams spoke only to confirm their …

United Rugby Championship: Who have the Welsh clubs signed for 2026-27?

In: After a busy 2025 recruitment drive, Dragons are looking to build on a promising …

‘Dirgelwch llwyr’ caneuon coll Triawd y Coleg

Wrth bori drwy archifau’r BBC yn ddiweddar, daeth Huw Meredydd, cynhyrchydd rhaglen Linda Griffiths ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.