google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn euog o lofruddio nain 69 oed yn ei chartref yn Y Rhyl

8a33d860 319f 11f0 8f9b a7ae9ae77703.png

Advertisements

Er i Mears gyfaddef cyflawni’r ymosodiad, dywedodd yn ystod yr achos nad oedd ganddo unrhyw gof o’r hyn ddigwyddodd na pham.

“Does gen i ddim esboniad ar gyfer y peth ofnadwy yma yr ydw i wedi ei wneud. Dwi’n derbyn fy mod yn gyfrifol, ond do’n i ddim yn bwriadu brifo neb,” meddai.

Roedd ei dîm cyfreithiol wedi dadlau ei fod yn dioddef o PTSD ar ôl cael ei drywanu ddwywaith ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

Yn 2021, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd am fod a chocên a cetamin yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u dosbarthu.

Fe wnaeth seiciatrydd oedd yn rhoi tystiolaeth ar ran yr amddiffyn awgrymu y gallai problemau iechyd meddwl esbonio gweithredoedd Mears – ond gwrthod hynny wnaeth arbenigwr arall.

Ar ôl ystyried am bedair awr, fe wnaeth y rheithgor wrthod y posibilrwydd fod Mears yn euog o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig, ac fe’i gafwyd yn euog o lofruddiaeth.

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod trosedd Mears yn “wirioneddol erchyll” ac yn “gwbl ddisynnwyr”.

Bydd Mears yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad dedfrydu, ond cafodd wybod gan y barnwr y dylai ddisgwyl dedfryd o oes yn y carchar ac y byddai difrifoldeb y drosedd yn cael ei adlewyrchu yn y ddedfryd honno.


BBC News

Views: 0

See also  Ysgrifennydd Cymru yn mynnu ei bod yn gefnogol o'r Gymraeg

Check Also

Women’s T20 Blast: Glamorgan target finals day silverware on home soil

Following Sunday’s final round of league fixtures, Glamorgan learned they would face either Kent or …

Junior World Championship: Flying wing Bowen staying grounded with Wales U20s

Bowen also has the benefit of rubbing shoulders with some of his idols in the …

Detectorist’s shipwreck treasure on display at Swansea museum

Hughes said he had been to the beach more than 1,000 times and spent thousands …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ford mustang 1995 widebody kit with wheels quantity.