google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn cyfaddef lladd tad ‘caredig a thyner’ y tu allan i dafarn

Mae dyn wedi cyfaddef lladd tad “caredig a thyner” y tu allan i dafarn brysur yn ne Cymru.

Bu farw Marcus Carpenter, 37, yn yr ysbyty – bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddyrnu y tu allan i’r Picture House yng Nglynebwy, Blaenau Gwent.

Dechreuodd ffrwgwd y tu allan i’r dafarn rhwng 23:30 nos Wener, 20 Chwefror a 00:15 fore Sadwrn, 21 Chwefror ac mi gafodd Mr Carpenter ei anafu’n ddifrifol.

Fe wnaeth Kyle O’Callaghan, 30, ffoi o’r lleoliad ac mi gafodd apêl Crimestoppers gwerth £10,000 ei lansio am wybodaeth.

Lansiodd yr heddlu ymchwiliad llofruddiaeth wedi i Mr Carpenter farw ddyddiau’n ddiweddarach.

Cafodd O’Callaghan ei arestio a’i gyhuddo o ddynladdiad ynglŷn â’r farwolaeth.

Ymddangosodd yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener, gan bledio’n euog i ddynladdiad.


BBC News

Advertisements

See also  Vitor Matos compares Liam Cullen to Bastoni and says history should not drag Swansea down

Check Also

‘Dwi yma ers mod i’n 19 – pryd ga i ystyried fy hun yn Gymro?’

Dadl Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn ei hanfod yw mai label ieithyddol oedd …

Penodi Deon newydd â ‘phrofiad helaeth’ i Gadeirlan Bangor

Yn ôl Nia Catrin Williams mae hi eisiau “adeiladu ar y gwaith diwygio ac adnewyddu …

Lauren Price to defend world titles against Michaela Kotaskova on BBC in November

Price’s promoter Ben Shalom said: “Lauren Price is one of the biggest names in British …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime