google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

60 mlynedd ers boddi Tryweryn: ‘Pawb wedi’u chwalu’

“Bydd pawb wedi chwalu ar ôl i’r llyn ‘ma ddod mewn.”

Dyna eiriau Aeron Prysor Jones, un o’r 13 disgybl yn Ysgol Capel Celyn ar ei ddiwrnod olaf un yn yr ysgol.

Mae 60 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gwm Tryweryn gael ei foddi i wneud cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl – a hynny’n groes i ewyllys y rhan helaeth o bobl Cymru.

Aeth camerâu rhaglen O Sul i Sul i ysgol Capel Celyn ar y diwrnod olaf cyn iddo orfod cau yn 1963, a chlywed atgofion gan y plant am sut y byddai cau’r ysgol yn cael effaith arnyn nhw.

Dywedodd Aeron y byddai cau’r ysgol a symud i Fron Goch yn golygu na fydd yn gallu chwarae gyda’i ffrindiau mwyach am eu bod yn byw yn rhy bell.

Hefyd, roedd yn cofio am ei athrawes, a honno byth yn “defnyddio’r gansen”.

Mae cyfweliad hefyd gyda phrifathrawes yr ysgol, Martha Roberts gyda honno’n diolch i’r gymuned ac yn sôn sut y byddai’n “colli cymdeithas yr ardal”.

Gwyliwch y fideo i glywed mwy am atgofion y plant a Martha Roberts.


BBC News

Advertisements

See also  Nodi 10 mlynedd ers i gynhyrchu trydan yn safle Wylfa ddod i ben

Check Also

Swansea City: John Toshack watches on as Vitor Matos’ table-toppers eye own history

Swansea’s next two fixtures – against last season’s play-off semi-finalists Millwall and promotion favourites West …

Man dies at scene of motorbike and car crash in Swansea

A man has died following a crash between a motorbike and a car in Swansea. …

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime