google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad un cerbyd ym Môn

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar Ynys Môn ddydd Gwener.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r A5025 yn ardal Porthllechog ger Amlwch tua 13:30.

Un cerbyd yn unig oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad, sef Nissan Micra coch.

Roedd y car yn cael ei yrru o gyfeiriad Amlwch, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, ac fe wrthdarodd â wal.

Dywedodd y llu bod ambiwlans awyr yn rhan o’r ymateb i’r digwyddiad a bod dyn oedd yn teithio yn y car wedi marw yn y fan a’r lle.

Fe gafodd y ddynes oedd yn gyrru’r car ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gyda mân anafiadau.

Mae’r heddlu yn annog unrhyw dystion i gysylltu â nhw.


BBC News

Advertisements

See also  Old Course to undergo revamp for 2027 Open

Check Also

Boy, 6, who died in Llanfairfechan crash named as Harrison Jones

The GoFundMe fund-raiser was launched by Kate Jones to help cover Harrison’s funeral and memorial …

Teuluoedd cleifion Alzheimer’s: ‘Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael’

Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i …

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime