google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn o Fôn yn helpu pobl sydd a nam ar eu golwg i fwynhau rhedeg

Advertisements

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn fe esboniodd ei fod wedi dechrau rhedeg eto ryw flwyddyn a hanner yn ôl.

Mae bellach yn rhan o “gymdeithas arbennig” Parkrun Niwbwrch “gyda chriw anhygoel o wirfoddolwyr eraill”.

“Mae’n deimlad cymdeithasol mewn Parkrun ac o’n i isho cyfle i rannu hynny efo pobl sydd ddim yn mynd oherwydd trafferthion golwg,” meddai.

Mae Ian bellach yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ac wedi gwneud yr holl hyfforddiant sydd ei angen i fod yn dywysydd.

Mae yna dennyn yn mynd o gwmpas garddwrn y tywysydd a’r rhedwr ond pwysleisiodd mai cyfathrebu sy’n bwysig “wrth fynd ymlaen – troi i’r dde, troi i’r chwith ac yn y blaen”.

Wrth redeg yn yr awyr agored mae Ian yn mwynhau disgrifio’r bywyd gwyllt sydd o’i gwmpas i’w gyd-redwyr ac yn gweld y budd o fod allan gydag eraill.

Mae’n edrych ymlaen nawr i “agor y drws” i fwy o bobl gael rhedeg ac “mae o’n gyfla rhoi rhywbeth yn ôl,” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Y gantores Casi Wyn yn cofio cyd-ganu gydag Ozzy Osbourne

Check Also

Cardiff’s National Museum Wales ‘discussing closure for repairs’

A workers’ union has said it is in “early discussions” about the potential closure of …

Conwy teen bullied for Pfeiffer skull condition training as doctor

A teenager who underwent 44 surgeries for a rare skull condition has said it was …

Watch Wales' Xu in her Wimbledon opener

Follow Court 16 action as GB’s Mimi Xu takes on Daria Kasatkina on day 1 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime