google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn o Flaenau Ffestiniog adref ar ôl ‘hunllef’ mewn carchar yn Affrica

0004b1f0 3a14 11f0 96c3 cf669419a2b0.jpg

Mae dyn o Flaenau Ffestiniog a dreuliodd dros 100 diwrnod mewn carchar yng ngorllewin Affrica wedi dychwelyd adref ar ôl “profiad gwaethaf fy mywyd”.

Cafodd Paul Inch, 50, a’i gydweithiwr Richard Perham, 29 o Fryste, eu cyflogi gan gwmni i fynd i Guinea i ganfod balŵn ymchwil oedd wedi dod i lawr yno.

Ond cafodd Mr Inch a Mr Perham – arbenigwyr ar chwilio ac adfer eitemau o’r fath – eu harestio a’u cyhuddo o ysbio.

Roedd y ddau i fod yn y wlad am bedwar diwrnod, ond yn y pendraw fe dreulion nhw 142 diwrnod yno – y mwyafrif o’r rheiny yn y carchar.

“O’dd o’n ddychrynllyd – profiad gwaethaf fy mywyd,” meddai Mr Inch.

Fe wnaeth yr Arglwydd Collins, Gweinidog Swyddfa Dramor sy’n gyfrifol am Affrica, groesawu’r ffaith bod y ddau wedi dychwelyd adref ar ôl eu “profiad hir” yn Guinea.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â’r awdurdodau yn Guinea am sylw.


BBC News

Advertisements

See also  Dyn wedi mynd â'i wraig sâl adref o'r ysbyty dros 'ofnau diogelwch'

Check Also

Ymddeol o fyd y theatr Gymraeg wedi 50 o flynyddoedd

Un o ddoniau Emyr oedd ei allu i greu posteri deniadol a bachog y cwmni …

Pennaeth S4C yn amddiffyn Saesneg ar Y Llais er mwyn annog dysgwyr

Yn ei gyfweliad ar Beti a’i Phobol, fe wnaeth Mr Evans hefyd amddiffyn comisiynu cyfres …

Wales in fight to retain rising female football stars

As well as the increased chance of success on the pitch, playing for the Lionesses …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime