google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Miloedd o gartrefi dal heb gyflenwad dŵr

Advertisements

Mae miloedd o bobl yn wynebu penwythnos heb gyflenwad dŵr ar ôl i bibell fyrstio.

Cafodd tua 40,000 o gartrefi eu heffeithio gan y digwyddiad yn Nolgarrog, Conwy ddydd Mercher.

Ond mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud fod angen i Dŵr Cymru ystyried a oes angen cynyddu’r iawndal “yn sylweddol” i deuluoedd a busnesau gafodd eu heffeithio ar ôl i’r bibell ddŵr fyrstio.

Er i Dŵr Cymru gadarnhau bod y gwaith atgyweirio ar y bibell yn Sir Conwy wedi ei gwblhau brynhawn Gwener, maen nhw’n rhybuddio na fydd cyflenwadau pawb sydd wedi’u heffeithio yn cael eu hadfer am hyd at 48 awr.

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, fod yna “rwystredigaeth ofnadwy am yr hyn sydd wedi digwydd” a bod “gwersi i’w dysgu” o ran y ffordd y mae Dŵr Cymru wedi ymateb i’r sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y bydd cwsmeriaid yn cael ad-daliad o £30 am bob 12 awr heb gyflenwad, tra bydd busnesau yn derbyn £75 am bob 12 awr fel taliad sylfaenol.

Fe fydd proses hefyd lle bydd modd i fusnesau hawlio mwy o arian yn seiliedig ar enillion sydd wedi eu colli.


BBC News

See also  Corff dyn wedi'i ganfod 28 mlynedd ar ôl iddo fynd ar goll

Check Also

Rheolau rhoddwyr sberm wedi ‘chwalu breuddwydion’ teulu

Mae’r cwpl yn galw am newid i’r gyfraith fyddai’n golygu unwaith y mae rhoddwr wedi …

Dychwelyd llyfr i Lyfrgell Llanrwst ar ôl dros ganrif yn ‘sioc hyfryd’

Dywedodd Peter wrth chwerthin, ei fod wedi gweithio allan mewn hen geiniogau, bod ei ddyled …

Doctors warn of health crisis in young and killer fled to Swansea

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime