google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn 37 oed wedi’i arestio ar ôl ymosodiad yng Ngheinewydd

Advertisements

Mae dyn 20 oed mewn cyflwr critigol yn yr ysbyty wedi ymosodiad difrifol yng Ngheinewydd yng Ngheredigion, oriau mân bore Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y digwyddiad wedi digwydd tua 00:51 ar Stryd Bethel, sy’n arwain at Sgwâr Uplands.

Cafodd y dyn anafiadau difrifol sy’n peryglu ei fywyd ac fe’i cludwyd i’r ysbyty, lle mae’n parhau mewn cyflwr critigol.

Mae dyn 37 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac mae yn nalfa’r heddlu.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan swyddogion yr Adran Ymchwilio i Droseddau a’r Tîm Troseddau Mawr.

Dywedodd yr heddlu y bydd presenoldeb swyddogion yn parhau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.


BBC News

Views: 1

See also  Nurse had benefit fraud convictions, Cardiff trial hears

Check Also

Crown Censure authorised for MoD after Castlemartin soldier deaths

The Health and Safety Executive has authorised the maximum sanction available for the Ministry of …

Elgan Rhys: Heriau rhywilodeb plentyndod yn ysgogi nofel

Mae Elgan yn cofio cael ei labelu ag enwau atgas yn yr ysgol, ac effaith …

Signal ffôn mewn ardal ar Ynys Môn ‘fel bod yn Oes y Cerrig’

“Di’r mab ddim yn cael problem o gwbl, mae o hefo network gwahanol. O’dd y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Ford mustang 1995 widebody kit with wheels speedstar models. Is ai a threat or an opportunity for south african jobs ?. El obeid : rsf attacks school.