google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Cydweithio â’r gymuned’ yw’r ffordd i dafarndai Cymru lwyddo

Ychwanegodd Gareth Jones, sy’n gweithio yn y dafarn: “Balans dwi’n meddwl ydy’r gair cywir, ‘da ni’n gorfod cael pobl leol yma, heb y bobl leol byddwn ni’n cau lawr yn syth achos nhw sy’n cadw ni i fynd dros y gaeaf lle does n’am llawer o dwristiaid yn dod.

“Wedyn haf ydi’r amser i gael y twristiaid i mewn yn gwario arian yn aros, yfed a byta. Heb heini fysa fo ddim yn viable.”

Mae’r dafarn yn cynnig “cynigion arbennig” i bobl leol trwy’r flwyddyn i “wneud yn sicr bod nhw ddim yn meddwl ein bod ni ‘mond yn ceisio denu nhw yma yn y gaeaf.”

“Ces i fy magu mewn tafarn so dwi’n gwybod be mae’n cymryd i gadw tafarn i fynd,” ychwanegodd Gareth.

“Mewn lle mor fach, cymuned fach, mae o’n andros o anodd i neud yn sicr bod y busnes yn gweithio.

“Mae’n rhaid cael sawl het os chi’n mynd i gadw pobl yn hapus.”

Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod am ddiwygio trethi busnes i “wneud pethau’n fwy cyfartal” ar y stryd fawr.

“Yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, byddwn yn sefydlu tasglu Canol Tref a fydd yn mynd i’r afael â’r heriau y mae busnesau’n eu hwynebu ar draws sectorau, yn enwedig mewn lletygarwch a manwerthu,” meddai llefarydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Snow and ice forecast as cold weather hits

Check Also

Crown Censure authorised for MoD after Castlemartin soldier deaths

The Health and Safety Executive has authorised the maximum sanction available for the Ministry of …

Elgan Rhys: Heriau rhywilodeb plentyndod yn ysgogi nofel

Mae Elgan yn cofio cael ei labelu ag enwau atgas yn yr ysgol, ac effaith …

Signal ffôn mewn ardal ar Ynys Môn ‘fel bod yn Oes y Cerrig’

“Di’r mab ddim yn cael problem o gwbl, mae o hefo network gwahanol. O’dd y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants. How to write better prompts and get more from any ai tool. el obeid : a war crime is happening right now.