google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dylid disgwyl mwy o brotestio’ – ffermwyr Porthladd Caergybi

Yn ôl Llywodraeth y DU mae gwasanaethau cyhoeddus “yn dadfeilio ar draws Prydain” a bod “twll ariannol o £22 biliwn wedi ei etifeddu gan y llywodraeth flaenorol”.

“Roedd 40% o ryddhad eiddo amaethyddol yn cael ei hawlio gan y 7% cyfoethocaf, ac mae’n rhaid cymryd y penderfyniad anodd i sicrhau bod y APR yn fforddiadwy yn ariannol,” medd llefarydd.

“Fe fydd hyn yn effeithio ar tua 500 o geisiadau (ar draws Prydain) y flwyddyn.

“Fe all cyplau sydd yn ffermio drosglwyddo hyd at £3m heb dalu treth etifeddiaeth. Dyma ffordd deg a chytbwys o ymdrin â’r sefyllfa.”

Mewn ymateb i’r brotest dywedodd llefarydd ar ran Porthladd Caergybi: “Nos Fercher, am tua 22:00, cyrhaeddodd nifer o brotestwyr a cherbydau Borthladd Caergybi gan rwystro mynediad i’r porthladd mewn ymateb i elfennau o gyhoeddiadau cyllideb diweddar y Llywodraeth.

“Daeth traffig ceir a theithwyr troed o fferïau a oedd yn dod i mewn yn ddiogel a chawsant ganiatâd i adael y porthladd trwy lwybr arall.

“Am 02:00, daeth y brotest i ben, ac ailddechreuodd gweithrediadau arferol y porthladd.”


Source link

Views: 0

See also  Yr Arweinwyr: Dan Thomas - BBC Cymru Fyw

Check Also

Dathlu mawr wrth i fecws gafodd ei ddifrodi gan lifogydd ail-agor yn Sir Gaerfyrddin

Roedd yna ddathlu mawr yn nhref Sanclêr, Sir Gaerfyrddin wrth i fecws gafodd ei ddifrodi …

Miriam Margolyes says being born Jewish has affected her whole life

“My friends and my relatives in Golders Green and Dollis Hill and Radlett and St …

Zain Ul Hassan: All-rounder extends Glamorgan stay

Glamorgan all-rounder Zain Ul Hassan has signed a contract extension at the club until the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.