google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dau frawd yn ‘rasio yn erbyn ei gilydd’ cyn gwrthdrawiad angheuol – llys

Advertisements

Wrth agor yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, clywodd y rheithgor bod Rhys Jenkins yn gyrru ar yr A483 pan darodd ei Toyota Yaris yn erbyn BMW X3 Abubakr Ben Yusaf oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall ond wedi gwyro i’w lwybr.

Bu farw Mr Jenkins yn y fan a’r lle.

A hithau eisoes wedi nosi, dywedodd yr erlyniad bod sawl llygad dyst wedi adrodd bod y ddau frawd – oedd yn gyrru ceir gwahanol – yn mynd “rhy gyflym”, yn “beryglus” ac yn “rasio’n erbyn ei gilydd”.

Yn ôl David Mainstone, ar ran yr erlyniad, roedd o’n “wrthdrawiad oedd yn debyg o ddigwydd” a bod y ddau frawd yn gyrru’n “fygythiol” ac yn “annog ei gilydd”.

Yn ôl un llygad-dyst, Ryan Jones oedd yn gyrru fan i gyfeiriad y gogledd ar y pryd, roedd BMW Abubakr Ben Yusaf wedi dod yn agos iawn ato wedyn yn ei basio ar gyflymder oedd “yn hynod o beryglus”.

Fe ddilynodd Audi Umar Ben Yusaf a’i basio hefyd, gan amcangyfrif eu bod yn teithio ar gyflymder o “rhwng 80 a 100 mya”.

“Allwch chi ddim gyrru ar ffasiwn gyflymder ar ffyrdd o’r fath”, dywedodd Mr Jones wrth y llys.

Ond yn fuan wedi hynny, yn y pellter o’i flaen, dywedodd ei fod wedi gweld cefn y BMW yn colli rheolaeth gan wyro i’r llwybr lle roedd Mr Jenkins yn gyrru i’r cyfeiriad arall.


BBC News

Views: 2

See also  Ryan Longman: Wrexham squad talking about making history

Check Also

Commonwealth Games 2026: Emma Finucane sets record with fourth gold

Welsh star Emma Finucane has created history by becoming the first sprint cyclist to win …

Canlyniadau Dydd Sul 2 Awst // Results for Sunday 2 August

Holl ganlyniadau Dydd Sul 2 Awst a chlipiau o’r cystadlaethau // All the results from …

Sunfish washes up on Abersoch beach after hot weather

Ocean sunfish are found across tropical and temperate waters and they have been recorded swimming …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Use the salehoo directory to find trustworthy, low cost suppliers who stock your chosen product. Soma 350mg contraindications archives health care pharmacy.