google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 17 2026

Yr Arweinwyr: Dan Thomas – BBC Cymru Fyw

Ar ddiwrnod olaf 2025 cyhoeddodd Dan Thomas ei fod o’n ymddiswyddo o’r cyngor. Pum wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Chwefror 2026, fe gafodd ei ddatgelu fel arweinydd Reform yng Nghymru, swydd oedd yn wag ers i Nathan Gill adael y blaid yn 2021.

Er ei fod wedi dod yn ail yn etholaeth Islwyn i’r Ceidwadwyr yn Etholiad Cyffredinol 2010 a 2017, roedd yn enw diarth i nifer yng Nghymru oherwydd iddo dreulio’r rhan fwya o’i fywyd – personol a gwleidyddol – yn Llundain.

Doedd ei gyd-aelod yn Reform ddim yn synnu ei fod wedi cael y swydd.

Meddai Cynghorydd Shooter: “Dwi wedi dweud erioed y byddai o’n gallu mynd yn bell – mae ganddo lot fawr o garisma, mae’n gryf mewn trafodaethau ac mae o wedi gwneud penderfyniadau ariannol da mewn sefyllfaoedd anodd yn y gorffennol.”

I’w ffrind a chyn cyd-aelod o’r Ceidwadwyr y Cynghorydd Manur, roedd y newyddion yn sioc.

Roedd o’n synnu ei fod o’n symud o’r brifddinas gan ei fod yn mwynhau’r bwrlwm, sioeau’r West End, bwytai da a nosweithiau comedi – ond yn deall bod plant yn newid popeth.

Roedd o hefyd wedi cael sioc bod ei fentor gwleidyddol wedi gadael y Blaid Geidwadol. Ond er hyn mae’n dymuno’n dda iddo ac yn gobeithio ymweld â’i ffrind os fydd o’n cael ei ethol i Fae Caerdydd.

“O weithio efo fo yn y byd gwaith a’r byd gwleidyddol dwi’n meddwl bod o’n haeddu fo,” meddai.

“Ac i fod yn deg efo Reform dwi’n meddwl bod o’n un o’r unigolion gorau maen nhw wedi llwyddo i ddewis. Maen nhw’n lwcus o’i gael o.”

Advertisements




BBC News

See also  Weight restrictions to be introduced on M48 Severn Bridge

Check Also

Severn tidal lagoon revealed and new bid to improve education standards

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Brynna mum’s Facebook kidney plea prompts stranger to donate

Gary, a security guard from Tredegar, Blaenau Gwent, stumbled upon Karen’s post by chance and …

AS newydd Plaid Cymru ‘wedi cefnogi aros yn yr UE’ ac ‘o blaid Cymru annibynnol’

Cymysg oedd yr ymateb ar strydoedd Pen-y-bont ar Ogwr o fewn yr etholaeth. Dywedodd Mandy …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime