google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyfodol miloedd o dai newydd yn y fantol yn y de-orllewin

Mae BBC Cymru’n deall bod cymaint ag 11,000 o dai newydd yn wynebu oedi yn y gorllewin ar hyn o bryd.

Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC), sy’n cynrychioli cymdeithasau tai’r wlad, bod hyn yn cynnwys mwy na 2,110 o dai fforddiadwy, gyda thua 800 o’r rheiny bron â chwblhau eu taith drwy’r broses gynllunio.

“Roedd y rhain yn dai y bydden ni wedi disgwyl gweld pobl yn byw ynddyn nhw o fewn y flwyddyn nesaf, ond ar hyn o bryd allwn ni ddim symud ymlaen,” eglurodd Rhea Stevens o CCC.

Ar draws Cymru mae yna ddegau ar filoedd o bobl ar restrau aros am dŷ cymdeithasol, meddai.

“Felly mae gennym ni argyfwng tai, ac yn y bôn beth sydd gyda ni nawr yw sefyllfa lle mewn rhannau o Gymru allwn ni ddim adeiladu’r tai fforddiadwy, sydd mor ddirfawr eu hangen.”

Mae’r grŵp yn galw am esgusodi tai fforddiadwy o’r rheolau newydd am y tro fel bod modd i brosiectau barhau, tra bod atebion hirdymor i’r trafferthion llygredd morol yn cael eu datblygu.


BBC News

Advertisements

See also  Newcastle 'close to our best' in win over Man City - Howe

Check Also

Josh Adams: Wales and Cardiff wing targets third Rugby World Cup

Wales wing Josh Adams says he would love to play in a third World Cup …

TikTok and Instagram posts ‘don’t warn hikers about dangers’

Increased demand is being reported by most teams in Wales. Brecon Mountain Rescue Team, which …

First minister demands ‘new deal’ for Wales before Plaid Cymru conference

Ap Iorwerth’s comments come after he hosted the nationalist first ministers of Scotland and Northern …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime