google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymchwil arloesol yn defnyddio athletwyr i fesur ansawdd ein moroedd

Mae’n 06:30 ar fore braf yn Ynys y Barri, ac mae cannoedd o athletwyr yn paratoi i gymryd rhan mewn triathlon sbrint.

Ond eleni mae pethau ychydig yn wahanol, gyda rhai o’r cystadleuwyr yn cael eu tynnu i un ochr a theclynnau bach maint darn 50 ceiniog yn cael eu gosod ar gefn eu gwisgoedd nofio.

Dyma’r samplwyr newydd, sy’n cael eu defnyddio fel rhan o brosiect rhwng mudiadau chwaraeon fel Triathlon Cymru a Nofio Cymru, a phrifysgolion Bangor ac Imperial yn Llundain.

Fel arfer byddai trefnwyr y ras yn profi’r dŵr i weld a yw’n ddiogel i nofio ynddo, ond mae cyfyngiadau i’r math yma o samplu, gan ei fod yn cael ei gasglu mewn un neu ddau o fannau ychydig cyn y ras, ac felly nid yw’n rhoi darlun cwbl fanwl.

Mae’r samplwyr newydd yn dilyn union lwybr y nofwyr ar yr adeg maen nhw yn y dŵr, ac felly’n darparu data mwy cywir.


BBC News

Advertisements

See also  'Dynion yn disgyn trwy'r tyllau' - galw am sgrinio canser y prostad

Check Also

Boy wins award after steering car to safety when mum collapsed

A mother whose life was saved by her son’s quick thinking after she collapsed at …

Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dyn 61 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. …

Aeron Pughe a’r ŵyl sy’n dathlu canu gwlad ym Machynlleth

Dywed Aeron bod pobl efallai’n cael y syniad anghywir o ganu gwlad, ac bod eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime