google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyffryn Aman: ‘Ddim wedi gweld dim byd tebyg i hyn’

Wedi i ddau athro ac un disgybl orfod cael triniaeth ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, dywedodd aelod lleol o’r Senedd bod y digwyddiad wedi “ysgwyd y gymuned gyfan”.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, soniodd Cefin Cambell AS am brofiad ei frawd a oedd yn un o’r rhai cyntaf i gyrraedd y digwyddiad.

“Oedd e’n brofiad ofnadwy iddo fe, wrth gwrs, ac i holl staff a disgyblion yr ysgol,” meddai Mr Campbell, yr Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Dwi ‘di siarad ‘da fe neithiwr – mae e yn amlwg wedi cael ei ysgwyd gan y digwyddiad ond yn fwy na hynny mae e wedi bod yn athro yn ysgol ers 40 mlynedd – ei swydd gynta fe ar ôl coleg ac mae e wedi bod yna trwy’i yrfa.

“Dyw e ddim wedi gweld ddim byd tebyg i hyn… Mae’r holl ddigwyddiad annisgwyl yma wedi ysgwyd y gymuned gyfan ac mae rhywun yn meddwl am y rhai sydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty a’r gymuned a’r rhieni hefyd sy’n dal i fod mewn sioc bore ‘ma.”


Source link

Views: 3

See also  Angen mwy o ‘swyddi da’ i gadw pobl ifanc yn Ynys Môn

Check Also

Labour politician wants training courses for rabbit owners in Wales

The Senedd election in May saw Hedges’ Labour lose power in Wales for the first …

Labour victory in additional learning vote in Senedd as Plaid lose again

The Plaid Cymru Welsh government has lost another vote in the Senedd after a majority …

Gyrrwr beic trydan yn osgoi carchar ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

Mae dyn a blediodd yn euog i yrru’n beryglus ar ôl taro cerddwr gyda beic …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime