google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dwi isho bod yn ficer ers mod i’n bedair oed!’

Mae Rhys Parry yn gwybod ei fod eisiau bod yn ficer ers ei fod yn ifanc.

Er hynny, dim ond ers troi’n 40 yr aeth ati o ddifrif i ddechrau ar y broses, a bellach mae hanner ffordd drwy ei gwrs i gymhwyso fel ficer gyda’r Eglwys yng Nghymru.

Ond doedd y siwrne at ei alwad mewn bywyd ddim yn un hawdd, eglurai.

“‘Nes i dyfu fyny yn y capel. Roedd dau ficer yn arwyddocaol yn y gymuned, helpgar, pobl bositif. Dwi’n cofio pan o’n bedair oed, edrych arnyn nhw a meddwl ‘dyna dwi eisiau bod’.

“Ond pan o’n i’n 17 oed, es i at un o’r hen arweinwyr, ac o’n i’n siarad amdana fi fy hun, ond dywedais i ‘mae gen i ffrind sydd yn meddwl ei fod o’n hoyw’ a meddai o ‘mae’n amhosib i fod yn Gristion ac yn hoyw’.

“Does gen i ddim beirniadaeth yn ei erbyn, roedd hi’r 80au ac roedd y byd yn wahanol…

“‘Nes i ddim rhedeg i ffwrdd, ond rili d’eud ‘stuff you guys’, a mynd i ffwrdd i Fanceinion.”


BBC News

Advertisements

See also  'Doedd neb yn gwybod amdano' - Rhieni'n galw am frechlyn llid yr ymennydd

Check Also

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Prince of Wales tells villagers ‘holistic’ approach is needed on flooding

On Thursday, the royal spoke to villagers Rod and Helen Wyatt at their garden gate …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime