google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Doedd neb yn gwybod amdano’ – Rhieni’n galw am frechlyn llid yr ymennydd

Advertisements

Mae teulu Meg eisiau i fwy o rieni gael gwybod am y brechlyn ychwanegol, ac i’r pigiad MenB fod ar gael gan y gwasanaeth iechyd.

Yn ôl prif weithredwr elusen llid yr ymennydd Meningitis Now, mae’r ffaith bod brechlyn ar gael allai amddiffyn y bobl ifanc yma yn “dipyn o drasiedi”.

Ychwanegodd Dr Tom Nutt ei fod yn “fuddsoddiad da yn nhermau cadw pobl yn iach ac achub bywydau”.

Mae myfyrwyr prifysgol yn arbennig mewn perygl gan eu bod yn cymysgu gyda nifer fawr o bobl newydd, ac mae’r bacteria yn lledaenu yn debyg i sut mae annwyd yn trosglwyddo o berson i berson.

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn dweud “yn syml does dim digon o ymwybyddiaeth” ymysg myfyrwyr.

Dywedodd llefarydd y dylid cynnig brechiad ar y gwasanaeth iechyd ac “na ddylai pris fyth atal mynediad at frechlynnau sy’n achub bywydau”.

Mae Llywodraeth Cymru’n dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wrth benderfynu ar ba frechlynnau i’w cynnig.

Yn 2014 daeth y cyd-bwyllgor i’r casgliad nad oedd cynnig brechlyn i bob oedolyn ifanc yn “gost-effeithiol”.


BBC News

Views: 0

See also  PC calls himself 'delicious Wotsit' in exchange

Check Also

Welsh death certificate to be issued in death of ex-BBC editor

While bilingual death certificates are issued in cases where a death has been registered bilingually …

Wes Burns: Leicester City sign winger from Ipswich Town

Leicester City have signed winger Wes Burns from Premier League side Ipswich Town for an …

Aberdare man throws bottles at police car on emergency call

Police responding to an emergency call had their windscreen smashed when a man threw a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar 600 apple peach.