google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dros 100 heb le i arddangos defaid yn y Sioe Frenhinol

Mae nifer o ffermwyr Cymru yn rhwystredig wedi i’r ffenestr i wneud cais i arddangos anifeiliaid yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni, gau dros ddeng niwrnod cyn y dyddiad cau swyddogol, sef 18 Mai.

Y rheswm. yn ôl y trefnwyr. yw bod nifer aruthrol – mwy nag erioed – wedi cofrestru, sy’n golygu bod dros 100 bellach ar restr aros.

Er iddi ennill sawl pencampwriaeth yn y gorffenol, dywedodd Olwen Roberts sy’n 15 oed na fydd hi’n mynd i’r Sioe o gwbl os na fydd modd iddi gystadlu gyda’i defaid.

Dywed Prif Weithredwr y Sioe ei fod yn deall ac yn derbyn y sylwadau sy’n dod o gyfeiriad y ffermwyr, ond yn ôl Aled Rhys Jones: “Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cynnal cydbwysedd ar draws y Sioe.”

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ‘na ddigon o le i’r gwartheg, a’r moch a’r geifr, a’r adrannau eraill wrth gwrs, yn ogystal â’r holl stondinau sy’n dod i’r Sioe, felly mae’n anodd wrth gwrs i wneud y penderfyniadau yma.”


Source link

See also  Starmer defends Welsh and Scottish devolution stance after leaked memo row

Check Also

Welsh Gender Service surgical referrals paused for clinical review

The Welsh Gender Service has paused scheduled and new referrals for gender-affirming surgeries, after the …

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime