google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html https://www.zazzle.com/life_is_better_outside_funny_golden_retriever_t_shirt-256699271524127185

Dringwr wedi marw yn Sir Benfro a dau arall yn yr ysbyty

Advertisements

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod dringwr wedi marw a dau arall yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad ar glogwyni Gofan (St Govan’s Head) yn Sir Benfro ddydd Iau.

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw tua 16:25 ar ôl pryder am ddiogelwch tri pherson ar y clogwyni.

Dydy’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus ac mae teulu’r dringwr wedi cael gwybod.

Cafodd dau ddringwr eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau na sy’n peryglu eu bywyd.

Cafodd timau achub Gwylwyr y Glannau o Abergwaun, Gofan a Dinbych-y-Pysgod eu galw yn ogystal â hofrenyddion Gwylwyr y Glannau o Iwerddon ac Ambiwlans Awyr Cymru i chwilio am y tri dringwr.


BBC News

See also  Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn pump oed

Check Also

Vincent Tan: Cardiff City owner’s 1,000 days without attending a game

In June he converted £42m of the club’s debt to him into equity, nearly halving …

Ffotograffau Geoff Charles yn ysbrydoli dogfennu Pen Llŷn heddiw

Mae gwaith Anna a Geoff Charles nawr yn cael eu dangos ym Mhlas Glyn y …

Heddlu i gymryd cerbydau sy’n difrodi tir gwarchodedig ‘yn y fan a’r lle’

Yr Arglwydd Newborough o Ystâd Rhug, ger Corwen, sy’n berchen ar y tir ar y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime