google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Dathliad dwbl i dad a mab sy’n bencampwyr byd Treialon Cŵn Defaid

Roedd yna ragor o lwyddiant i Gymru yn y treialon a ddenodd 300 o gystadleuwyr o 34 o wledydd i ardal Lauder yng Ngororau’r Alban.

Kevin Evans o Aberhonddu, gyda’i gŵn Kemi Ids a Valley View Dan, oedd enillydd y gystadleuaeth Brace, lle mae ffermwr yn trin dau gi ar yr un pryd – y tro cyntaf erioed i’r categori yna fod yn rhan o dreialon y byd.

Ac Angie Driscoll o Lanllawddog yn Sir Gâr oedd yn drydedd i David Howells yn y brif gystadleuaeth gyda Kinloch Carlos. Roedd yna 16 wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Cafodd cynrychiolwyr Cymru eu dewis bron flwyddyn yn ôl yn ystod treialon ar fferm yn ne Meirionydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  PNE's Ben Whiteman 'crosses line' in Wrexham move attempt

Check Also

Portugal v Wales quiz: Can you name the Wales XI who faced Cristiano Ronaldo and Co in Euro 2016 semi-final?

Wales face Portugal in the Nations League on Thursday – 10 years after the two …

Teen admits manor arson and dad dies on holiday

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Flintshire village changes name to Pentre Moch – meaning Pigs Village

A rural Welsh village will officially change its name to Pentre Moch – literally translated …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime