google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i’n cerdded eto’

Advertisements

Yn ystod y cyfnod hwn, fe gafodd ei mab ei eni ac mae ganddo ef ei heriau hefyd. Mae’n awtistig ac yn ddieiriau (non-verbal autistic) ac mae ganddo oediad yn ei ddatblygiad.

“Roeddwn i’n cael trafferth cerdded ond ar yr un pryd ro’n i’n gorfod dysgu sut i fod yn rhiant ac yn ofalwr i berson anabl.”

Fe weithiodd Rachael yn galed i gryfhau gan ail-ddysgu cerdded, neidio, dringo a nofio. Sylweddolodd yn ystod y cyfnod hwn pa mor bwysig oedd y gweithgareddau hyn iddi hi, yn enwedig fel gofalwr ac felly dyna beth sbardunodd hi i weithio gyda phobl mewn sefyllfa debyg i’w un hi.

Meddai: “Dw i’n deall pa mor anodd yw creu amser i chi eich hun pan rydych chi’n gofalu am rhywun sy’n annwyl i chi.”

Felly fe sefydlodd grŵp cerdded a nofio gwyllt. Mae’n cynnal y sesiynau nofio gwyllt ar nosweithiau Mercher, a’r grŵp cerdded ar ddydd Iau. Er mwyn gallu cynnal y sesiynau nofio gwyllt, mae Rachael wedi cymhwyso fel achubwr bywyd a hyfforddwr nofio.

“Pan mae pobl yn mynd mewn i’r dŵr oer am y tro cyntaf ac yn gorchfygu’r teimlad o ofn y dŵr a nofio, maen nhw’n dod yn ôl gyda mwy o hyder bob tro. Mae’n deimlad gwerthfawr iawn, mor werthfawr.”


BBC News

Views: 1

See also  'You look like a man': How Shell Rowe discovered she had cancer

Check Also

Dragons look to take next step after season of progress in URC and Challenge Cup

Dragons’ matchday squad in Montpellier featured 13 players who came through their academy. Lock Ben …

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo. Digwyddodd y …

County Championship: Glamorgan seal innings win over Hampshire

Glamorgan completed a County Championship victory over Hampshire for the first time since 1991, and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.