google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Doedd dim angen i hyn ddigwydd’ – Beirniadu’r diffyg hofrennydd i daclo tanau

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi dechrau “cynllun rheoli argyfwng i gydlynu’r ymateb i danau ar draws Cymru”.

Dywedodd llefarydd bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau “nad oes cymorth o’r awyr ar gael ar gyfer unrhyw le yn y DU” ac felly bod “trafodaethau brys o fewn Cymru ac ar lefel y DU i ganfod ateb”.

Ychwanegodd y llefarydd bod hofrenyddion yn arf defnyddiol wrth daclo tanau, nad oedden nhw’n “ddatrysiad cynhwysfawr o bell ffordd”.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, bod ymateb diffoddwyr tân a’r gwasanaethau brys “wedi bod yn eithriadol ac yn dangos ymroddiad a phenderfyniad anhygoel mewn amodau gwirioneddol anodd, ac rwyf am dalu teyrnged i bob un ohonynt”.

“Mae tanau gwyllt wedi bod yn risg ddifrifol mewn sawl rhan o Gymru am amser ac mae newid hinsawdd yn sicr o gynyddu’r risg honno, yn enwedig yn ystod tywydd gwres yr haf.”

Ond ychwanegodd “nad oes unrhyw allu diffodd tân o’r awyr ar gael i’w ddefnyddio yn unman yn y DU ar hyn o bryd i gefnogi’r ymdrechion hyn”.

“Gwnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gais ffurfiol am gymorth cydfuddiannol ar ffurf staff ac offer tân, ac rwy’n falch bod hyn wedi’i gytuno a bod yr adnoddau hynny bellach ar lawr gwlad yn cefnogi criwiau.”

Ychwanegodd bod criwiau’r dal i geisio mynd i’r afael â’r tân ym Mlaenafon, ble mae disgwyl iddo “barhau i losgi am sawl diwrnod”.

“Mae diffoddwyr tân yn aros yn y fan i’w atal rhag lledaenu ymhellach a rhoi bywydau, bywyd gwyllt ac eiddo mewn perygl.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Mam wedi newid ei barn ar gymorth i farw yn sgil salwch ei mab

Check Also

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Cofrestru yn yr Eisteddfod ‘a rŵan ella bo’ fi’n rhoi cyfle arall i rywun fyw’

I Elin, mae’r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau’r daith yn …

Beth nesaf i dai gwag Môn sydd ddim yn cael bod yn gartrefi parhaol?

Ond pam felly nad yw’r cyngor wedi newid amod y tai yma? Mae Cyngor Môn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime