google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgwyl pasio cyllideb Llywodraeth Cymru mewn pleidlais yn y Senedd

Advertisements

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion cyllid, Sam Rowlands: “Mae cynllun Plaid a Llafur ar gyfer y gyllideb yn gytundeb drwg i Gymru.

“Mae’n gyllideb sy’n cynnwys cyllid ar gyfer mwy o fiwrocratiaeth, cymorth i wledydd tramor, swyddfeydd tramor, cynllun Cenedl Noddfa, ehangu’r Senedd a chynyddu nifer y gwleidyddion – ac sydd ddim yn mynd i’r afael â blaenoriaethau’r bobl.”

Nododd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan: “Byddai cyllideb ddrafft Llafur wedi cael effaith drychinebus ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a chynghorau lleol – a fyddai wedi arwain yn y pendraw at gynyddu trethi a cholli miloedd o swyddi yn ein cymunedau.

“Cyllideb Llafur yw hwn, ond ni allwn sefyll a gwylio bywydau pobl Cymru yn cael eu gwneud yn anoddach heb wneud dim i helpu.

“Dyna pam rydyn ni wedi cytuno i ymatal ein pleidlais nos Fawrth ar ôl sicrhau cynnydd sylweddol mewn cyllid i’n gwasanaethau cyhoeddus.”

Yn ôl llefarydd ar ran Reform fe fydden nhw’n “gwrthwynebu’r gyllideb derfynol hon gan ei bod yn methu ag ail-adeiladu ein gwasanaeth iechyd, yn anwybyddu cefn gwlad Cymru, ac yn gwthio cynghorau a theuluoedd i wneud dewisiadau amhosibl”.


BBC News

Views: 1

See also  S4C i roi mwy o bwyslais ar gynnwys 'digidol yn gyntaf'

Check Also

Sul y Tadau: Y tad a’i ddau fab o Fangor sy’n caru snwcer

Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i’w tad am fod yn athro …

Modd ‘rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau’ – awdur ifanc o’r Bala

Ag yntau bellach yn astudio yn UCL yn Llundain, dywedodd fod rhoi’r gyfrol at ei …

Hannah Parr: ‘Symud i Langeitho os yn cael ceffyl neu ddolffin’

Un o’r pethau sy’ wedi ysbrydoli Hannah i fyw bywyd i’r eithaf yw colli ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Blog coconut point residences. aaa mush love. Learn more about troubleshooting wordpress.