google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Defnyddio offer heb eu sterileiddio mewn llawdriniaethau ysbyty

Advertisements

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad diogelwch cleifion yn yr ysbyty.

“Rydym wedi cael sicrwydd bod y bwrdd iechyd yn cymryd pob mesur rhagofalus i atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd eto.”

Dywedodd y corff statudol annibynnol sy’n cynrychioli pobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, Llais, fod angen i bobl deimlo sicrwydd bod y prosesau sy’n cael eu cynllunio i amddiffyn eu diogelwch yn cael eu dilyn ac yn gweithio.

Ar ran Reform UK, dywedodd Laura Anne Jones AS fod y newyddion yn “bryderus iawn” a’i fod yn codi cwestiynau difrifol am brosesau a goruchwyliaeth o fewn GIG Cymru.

Disgrifiodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y methiannau fel rhai “dychrynllyd”, gan ddweud y bydden nhw’n “gwneud ein GIG yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol” pe bai nhw’n llywodraethu.

Dywedodd Peter Fox AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod hyn yn doriad “difrifol” o ddyletswyddau gofal a chyfrifoldeb a galwodd am ymchwiliad llawn i’r mater.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd wedi cael ceisiadau am ymateb.


BBC News

Views: 3

See also  Labour first to release costings for Senedd election policies

Check Also

‘Tinder clinicians’ and the ambulance staff categorising emergency calls

An elderly cancer patient, unconscious at home, surrounded by her worried family, and a five-month-old …

Llywodraeth Cymru’n methu â phasio ei chyllideb atodol ar ôl colli pleidlais

Yn y drafodaeth, a oedd yn danllyd ar adegau nos Fawrth, dywedodd Huw Thomas o’r …

Man Utd news: Karl Darlow says move ‘a really special opportunity’

Manchester United’s latest signing Karl Darlow says he is “extremely proud” to sign for the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime