google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Blaenoriaethu’r rhai sydd ar fin marw – golwg ar y drefn 999 newydd

Advertisements

Porffor – ar gyfer pobl sy’n cael ataliad ar y galon neu ddim yn anadlu a sydd angen ambiwlans ar unwaith.

Coch – i bobl sydd mewn perygl uchel er enghraifft, rhywun sy’n tagu.

Oren – ar gyfer cyflyrau difrifol, sydd angen asesiad wyneb yn wyneb, profion a throsglwyddo i ysbyty neu ofal arbenigol – er enghraifft, rhywun sy’n cael strôc neu drawiad ar y galon.

Melyn – ar gyfer pobl sydd angen eu hasesu yn gyntaf, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, cyn i glinigwr benderfynu ar y camau nesaf. Er enghraifft, person â phoen yn yr abdomen, neu anaf nad yw’n ddifrifol.

Gwyrdd – ar gyfer galwadau llai brys, fel rhywun â haint ysgafn. Gellid trin pobl yn ddiogel gartref gyda’r gofal cywir.

Y nod yw cyrraedd galwadau porffor a choch mewn 6-8 munud ar gyfartaledd ac oren mor brydlon â bo modd – does dim targed amser bellach ynghlwm â mwyafrif y galwadau.

Mae Kate yn cydnabod fod rhai, o ganlyniad, yn aros yn hirach.

“Yn anffodus ma’ nhw [weithiau] yn mynd i orfod disgwyl.

“Os oes gyda ni sefyllfa lle bo cymaint o alwadau yn dod mewn – yn anffodus fe fydd rhai yn disgwyl lot mwy na fasen ni’n licio.”

Ond dyw’r ymdrech i flaenoriaethu argyfyngau ddim yn golygu fod galwadau eraill ddim yn cael sylw, gyda thimoedd clinigol yn y gwasanaeth yn arbenigo mewn cynnal asesiadau dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo.


BBC News

Views: 1

See also  Is-etholiad Caerffili yw'r 'pwysicaf' yng Nghymru ers yr 1960au

Check Also

Llywodraeth Cymru’n methu â phasio ei chyllideb atodol ar ôl colli pleidlais

Yn y drafodaeth, a oedd yn danllyd ar adegau nos Fawrth, dywedodd Huw Thomas o’r …

Man Utd news: Karl Darlow says move ‘a really special opportunity’

Manchester United’s latest signing Karl Darlow says he is “extremely proud” to sign for the …

Talbot Green man caught by FBI encouraging hoax ‘swatting’ 999 calls jailed

When police arrested Dare, they seized his electronic devices and found files relating to a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime