google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llywodraeth Cymru’n methu â phasio ei chyllideb atodol ar ôl colli pleidlais

Advertisements

Yn y drafodaeth, a oedd yn danllyd ar adegau nos Fawrth, dywedodd Huw Thomas o’r blaid Lafur fod “awgrym na fyddai mwy o arian yn cael ei roi i anghenion dysgu ychwanegol” am y tro os yw’r gyllideb atodol yn methu.

“Os yw hynny’n gywir, yna mae’n niweidiol, mae’n ddialgar ac mae’n mynd i arwain at weithredu diwydiannol eang,” meddai.

Dywedodd Cai Parry Jones na fyddai ei blaid ef, Reform, yn cefnogi’r gyllideb am ei bod yn mynd yn erbyn nifer o “linellau coch” y blaid, gan gynnwys torri gwariant tramor.

“Ni chawsom ein hethol i gymeradwyo cyllidebau llywodraeth sydd, yn ein tyb ni, methu cyflawni dros bobl Cymru.”

Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol, Darren Millar, ei bod yn “hurt” i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r gyllideb atodol i’r Senedd pan nad oedd cytundeb wedi’i gyrraedd.

“Dyma’r realiti gwleidyddol,” meddai, gan ychwanegu oherwydd natur aelodau’r Senedd, “nid oes modd cytuno ar gyllidebau na deddfwriaeth Llywodraeth Cymru heb gytundeb trawsbleidiol”.


BBC News

Views: 1

See also  Rob Page: Wales will have 'honest conversations' before Slovakia

Check Also

Labour calls on Welsh government to withdraw supplementary budget

Thomas added: “The Welsh government need to withdraw it today, negotiate with those unions to …

Jonny Williams welcomes PFA support in new club search

Having not featured at the 2022 World Cup, Williams announced his Wales retirement four months …

Grŵmio plentyn: Arestio dyn o Borthmadog wedi ymchwiliad

Mae dyn o Borthmadog wedi ei arestio ar amheuaeth o gwrdd â phlentyn ar ôl …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Limit the use of my sensitive personal information.